Map o Awst 1974 yn dangos gwasanaethau fysiau yn ardal y cymoedd i’r gogledd o Gaerdydd hyd ar Aberhonddu, Gwent, Henffordd, Caerloyw a Bryste.
Y gwasanaethwyr yw:
Red & White Services Limited
Western Welsh Omnibus Co. Limited
Bristol Omnibus Co. Ltd
F. C. Cottrell Ltd.
City of Cardiff Transport
Jones Omnibus Services Ltd.
Midland Red.
Rhymney Valley U.D.C.
Wye Valley Motors Ltd.
Gwasanaethau Red & White Services Limited a Western Welsh Omnibus Co. Limited
ROUTE MAP Eastern Area of Red & White Services Limited and Western Welsh Omnibus Co. Limited Incorporating the areas of Gwent – Powys South Hereford & West Gloucestershire
Llun seicadelig o wyliau yng ngogledd Cymru. Taflen yn hysbysebu carafanau i’w brynnu yn y gogledd. Awst 1977.
Testun yn y lluniau wedi’i gynnwys i hwyluso chwilio.
In North Wales buy your caravan from
The North Wales Caravan Sales Co Ltd
Voryd Road Rhyl N Wales
Tel: Rhyl 2234
Select your caravan from The North Wales Caravan Sales Co Ltd
Our wide range of caravans mainly consists of fully serviced and standard holiday homes. We do, however, carry a limited number of tourers and residential models.
We provide our customers with a first-class after-sales service, a selection of sites, hire purchase or credit facilities incorporating our Insurance Protection Plan and competitive insurance cover. We welcome part exchanges.
If you are thinking of buying, avoid delay and beat continuous rising prices. Contact us immediately or call at any time to see us personally, as our Sales Staff are available 7 days a week.
It is an established fact that our selection of sites on the North Wales coast, particularly in the Rhyl/Abergele area, is the premier choice. Should you require a site further afield, our site survey team can assist as they have contacts with local knowledge; that is one benefit of dealing with us.
As main distributors for leading manufacturers, we obviously have models of current design and specification. Spacious 6 and 8 berth, with one or two end bedrooms, deluxe models with separate bathroom or shower: all of which have fully fitted kitchens.
Secondhand models are available to suit your pocket and taste. During our Sale period our demonstrators are sold at reduced prices and include special attractive offers.
Each of our associate Caravan Parks operates a Booking Agency which can convert any vacant dates in your caravan calendar into a lucrative investment.
CHWANT A CHARIAD, NWYD A NAID, SERCH A SIOM, DIALEDD A DIOGI… YNG NGHYMRU FACH.
LOVE AND LUST, PASSION AND PROMISCUITY, VANITY AND VENGEANCE, GLUTTONY AND GREED IN CYMRU FACH.
CYNHYRCHYDD/PRODUCER JON WILLIAMS
CYFARWYDDWR/DIRECTOR GRUFFYDD DAVIES
UWCH GYNHYRCHYDD/EXEC PRODUCER MARC EVANS
YSGRIFENNWYD GAN/WRITTEN BY WILLIAM OWEN ROBERTS
FFOTOGRAFFIAETH/PHOTOGRAPH SIAN ELIN PALFREY
GYDA/WITH GARETH PIERCE/LOWRI GWYNNE/SIONED WYN/ RHYS AP TREFOR/NICOLA BEDDOE/ANEIRIN HUGHES/ CAITLIN RICHARDS/STEFFAN RHODRI/ VICTORIA PUGH/GWYN VAUGHAN
CYNHYRCHIAD FFILMIAU BOOM FILMS
DANGOSIADAU YN YSTOD WYTHNOS EISTEDDFOD CAERDYDD YN SINEMA 1 CHAPTER, NOS FAWRTH (5ED) AM 8.30 PM, NOS FERCHER (6ED) AM 6.30PM. TOCYNNAU AR GAEL O SWYDDFA DOCYNNAU CHAPTER, WWW.CHAPTER.ORG, NEU O STONDIN CHAPTER AR FAES YR EISTEDDFOD (UNED 620).
SCREENING AT CHAPTER ARTS CENTRE, CINEMA 1: TUESDAY (5TH) AT 8.30 PM. WEDNESDAY (6TH) AT 6.30 PM. TICKETS AVAILABLE AT STAND 620 (OPPOSITE. THEATRE), WWW.CHAPTER.ORG, AND BOX OFFICE (02920304400) THIS FILM IS SUBTITLED.
AR DAITH SINEMA YN YSTOD MEDI/HYDREF 2008 IN CINEMAS AROUND WALES, SEPT/OCT 2008
Dinas Mot yw nodwedd daearyddol – casgliad o glogwyni – sydd i’w weld ym Mwlch Llanberis. Mae wrth droed ysgwydd sy’n arwain i fyny at y Grib Goch o ochr ogleddol masiff yr Wyddfa.
Carnedd Elidir o Ddinas Mot
Es i edrych am Ddinas Mot ar ôl ei weld ar hen fapiau. Yr enw, ac nif ei rinweddau, oedd yr atyniad. Pwy oedd Mot – enw sy’n gyffredin ar gi – ac a oes hen gaer yma? Does dim olion unrhyw fath o gaer ond yn ôl Enwau Eryri, Iwan Arfon Jones, cawr lleol oedd Mot. Yr unig canlyniadau chwilio yw rhai gwefanau gwybodaeth dringo, a rheiny yn llawn enwau diog Saesneg a thalfyriadau.
Map bras yn dangos lleoliad Dinas Mot a chopaon enwog eraill. (Meddalwedd: QGIS)
Ar y ffordd i fyny yr oedd digon o grug, llus, ambell i afr a llyffant!
Llus: geill fod yn led-gyffredin, ond fel arfer, bydd defaid yn eu mwynhau.
Fel arfer, byddaf yn byw a gweithio yn Llundain, gan ddychwelyd i fy mhrif cartref yma ac acw – ryw unwaith y mis. Ers ddechrau’r pandemig ym mis Mawrth 2020, yr ydwyf wedi dychwelyd i dŷ fy nhad.
Yn nhŷ fy Nhad y mae llawer o drigfannau; pe na byddai felly, a fyddwn i wedi dweud wrthych fy mod yn mynd i baratoi lle i chwi?
Yn lle trigfannau, mae llawer o lyfrau, pamffledi a mapiau. Dymunaf rannu rhai o’r rhain â chi.
Tŷ fy Nhad yw enw un o raglenni C’mon Midffîld hefyd.
Mae hi bron yn flwyddyn ers i wledydd y DU gychwyn ar eu cyfnod clo a rhwystrau. Daeth i rym 23 Mawrth 2020, er yr oedd hi’n amlwg bod un ar y ffordd ers meityn. Ar wahan i glywed sgrechau pobl yn galw am un wedi gweld y don yn taro gwledydd eraill, yr oedd un busnes mawr ar ôl y llall yn hel pobl adref ac yn didyddmu a gohirio busnes.
Mae’n anodd cofio ac adrodd unrhyw beth o bwys o’r flwyddyn olaf, er yn ddiau yr ydwyf wedi bod yn brysur iawn trwy’r adeg. Er yr holl aros gartref, yr oeddwn wedi disgwyl y buaswn wedi ysgrifennu rhywbeth – unrhyw beth. Felly dyma ceisio ffindio ysgogiad i wneud. Gwell hwyr na hwyrach.