Dinas Mot

Dinas Mot yw nodwedd daearyddol – casgliad o glogwyni – sydd i’w weld ym Mwlch Llanberis. Mae wrth droed ysgwydd sy’n arwain i fyny at y Grib Goch o ochr ogleddol masiff yr Wyddfa.

Carnedd Elidir o Ddinas Mot

Es i edrych am Ddinas Mot ar ôl ei weld ar hen fapiau. Yr enw, ac nif ei rinweddau, oedd yr atyniad. Pwy oedd Mot – enw sy’n gyffredin ar gi – ac a oes hen gaer yma? Does dim olion unrhyw fath o gaer ond yn ôl Enwau Eryri, Iwan Arfon Jones, cawr lleol oedd Mot. Yr unig canlyniadau chwilio yw rhai gwefanau gwybodaeth dringo, a rheiny yn llawn enwau diog Saesneg a thalfyriadau.

Map bras yn dangos lleoliad Dinas Mot a chopaon enwog eraill. (Meddalwedd: QGIS)

Ar y ffordd i fyny yr oedd digon o grug, llus, ambell i afr a llyffant!

Llus: geill fod yn led-gyffredin, ond fel arfer, bydd defaid yn eu mwynhau.

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *