SFA llywodraeth newydd Cymru

Cofiaf fy mhrifathro yn yr ysgol gynradd – Mistar Huws – yn holi’s dosbarth a wnaethom wylio canlyniadau’r etholiad y noson blaenorol? Y diwrnod blaenorol oedd 18 Medi 1997. Nid oeddwn wedi deall ei arwyddocâd, a meddwl mai etholiad cyffredinol arall oedd hi. Rhywbeth tebyg i lwyddiant y blaid Lafur gyda Tony Blair, ryw fisoedd ynghynt. Yr etholiad oedd refferendwm ar sefydlu’r Cynulliad: sefyliad democrataidd i Gymru. Fel y disgwyl, yr oedd y rheiny sy’n dueddol o gefnogi Blaid Cymru wedi gneidi gyda’r canlyniad.

Ddydd Iau, Mai 7 2026, bron i 30ain o flynyddoedd ymlaen, etholiad i ethol aelodau’r sefydliad sydd bellach yn Senedd. Dydd Gwener, clywsom mai Plaid Cymru oedd wedi ennill y nifer fwyaf o seddi, ond dim digon i gael mwyafrif. Er hyn, yr oedd digon o ddagrau o hapusrwydd ymlith aelodau’r Blaid, a ryw wefr tebyg i 1997.

Yn yr wythnosau diwethaf, mae Super Furry Animals (SFA) wedi bod yn hysbysebu eu gigiau. Trwy gyfryngau cymdeithasol, daeth ambell i lun i’r golwg o ffrindiau a chyfeillion eraill mewn gig yn Llandudno yn ddiweddar. Mae gig arall yn Llangollen wedi ei drefnu, ac un gyfan gwbl Cymraeg – y cyntaf ers blynyddoedd – ar noson gyntaf yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llandudnoch (Eisteddfod y Garreg Las).

Daeth cylchgrawn Planet – The Welsh Internationalist – i ben adeg Pasg 2024, gyda chyhoeddiad cyfrol 253, yn 54 mlwydd oed. Cyhoeddwyd cyfrol 125 o Planet adeg Hydref/Tachwedd 1997, mis wedi refferendwm ar sefydlu’r Cynulliad. Ymysg erthyglau sy’n sôn bod mwyafrif o 6,000 o blaid y Cynulliad, dal yn fwyfarif, a methiant i gael mwy o’r boblogaeth i bleidleisio, mae “My Patio’s on Fire”, gan Peter Morgan. “My Patio’s on Fire” yw enw cân gan Gorky’s Zygotic Mynci.

Aed yr erthygl yn ei flaen i sôn am Stereophonics, Manic Street Preachers, Gorky’s Zygotic Mynci, a Super Furry Animals. Mae mymryn yn ddrysglyd, ond yr hyn sy’n ymddangos tua’r diwedd yw bod y bandiau hyn wedi gadel oel gwahanol, yn wahanol i rai o’r dylanwadau mawrion eraill ar y pryd. Gad i ni obeithio bydd ryw atgyfodiad cerddorol Cymraeg, a llywodraeth newydd Cymru yn gadael ei hoel unigryw ei hun, er gwaethaf yr holl wenwyn gwleidyddol sydd ym mhob man ar hyn o bryd.

Blaen Planet 125 – band Super Furry Animals
Cefn Planet 125 – bandiau Gorky’s Zygotic Mynci, Stereophonics, a Manic Street Preachers.

Isod mae’r erthygl fel yr ymddangosodd yn y cyhoeddiad.


Cofnodwyd

yn

gan

Tagiau:

Sylwadau

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae’r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *