Dathlu Rheilffordd y Mwmbwls

Heddiw yw dau can’mlwyddiant sefydlu rheilffordd deithwyr fodern cyntaf y byd (27 Medi 1825 hyd 27 Medi 2025). Y diwrnod cyntaf ble talodd pobl i deithio ar drên ager, o Shildon i Stockton, trwy Darlington, yng ngogledd ddwyrain Lloegr. Yr oedd y trên hefyd yn cludo glo. Amlygodd hyn potensial rheilffyrdd i drawsnewid nid yn unig diwydiant, ond hefyd cymdeithas. Dyma’r wefan swyddogol sy’n nodi’r dau can’mlwyddiant.

Er y dathliad uchod, Rheilffordd y Mwmbwls oedd y gwasanaeth trên cyhoeddus gyntaf i dderbyn teithwyr. Y trên yn yr ystyr hwn oedd car ar gledrau wedi ei dynnu gan geffyl. Sefydlwyd cwmni Rheilffordd y Mwmbwls 29 Mehefin 1804, i gludo mwyn haearn a chalchfaen o’r Mwmbwls i Abertawe. 1804 yw’r un flwyddyn a Richard Trevithick yn profi ei drên ager am y tro cyntaf yng Ngweithfeydd Haearn Penydarren, ger Merthyr Tudful. Ar 25 Mawrth 1807, derbyniodd Rheilffordd y Mwmbwls teithwyr am y tro cyntaf – y cyntaf yn y byd. Mae gwefan BBC Cymru yn sôn am Rheilffordd y Mwmbwls yng nghyd-destun dathliadau gwasanaeth trên Shildon i Stockton. Diau mai gwasanaeth trên Shildon i Stockton sy’n cael ei ddathlu am eu bod yn fwy parod i gofio ei hanes a gwneud mwy o sŵm am y peth. Mwy o wybodaeth gan brosiect Llwybr Rheilffordd y Mwmbwls.

Yn 1982, cyhoeddodd Swyddfa’r Post Amlen Diwrnod Cyntaf i ddathlu 175 mlynedd ers sefydlu cwmni Rheilffordd y Mwmbwls., mewn cydweithrediad â Chymdeithas Rheilffordd y Mwmbwls.

Llun o Amlen Diwrnod Cyntaf dathlu 175 mlynedd ers gychwyn gwasanaeth teithwyr Rheilffordd y Mwmbwls. Amlinelliad o gar wedi ei dynnu gan ceffyl.

Y tu mewn i’r amlen oedd pamffled dwyieithog gyda hanes y rheilffordd, a’r gorsafoedd o’r Mwmbwls i Abertawe (taflen A5 mewn ei blygu’n ei hanner). Yn ôl yr Amlen, y gorsafoedd oedd:

  • Stryd Rutland / Rutland Street
  • Stryd Argyle / Argyle Street
  • Y Santed Helen / St. Helens
  • Brynmill
  • Heol Ashleigh / Ashleigh Road
  • Blackpill
  • West Cross
  • Heol Norton / Norton Road
  • Ystumllwynarth / Oystermouth
  • Pier Southend / Southend Pier
  • Y Mwmbwls

Mwy o wybodaeth am yr orsafoedd a’r hanes ar wefan y gymdeithas.

RHAI COFNODION

Rhai ffeithiau sy’n gwneud Rheilffordd y Mwmbwls yn unigryw:

Y Rheilffordd Cario Teithwyr cyntaf, 25ain Mawrth, 1807.

Nes ei chadawaeth ar y 5ed o lonawr 1960, hon oedd y rheilffordd gyhoeddus hynaf mewn perchenogaeth breifat. (Ffurfiwyd 29ain Mehefin, 1804).

Mae wedi defnyddio saith math o bŵer ysgogol yn ystod ei gyrfa – ceffyl, awyr, peiriant stêm, batri, peiriant ymsymudol petrol, peiriant ymsymudol disel, tyniant trydanol uwchben.

Defnydd cyntaf cyson o beiriant ymsymudol stêm at wasanaeth cludo teithwyr mewn stryd drefol (17eg Awst, 1877).

Yn y dyddiau stêm, cariwyd cymaint â 1800 o deithwyr mewn un trên – go brin fod unrhyw drên ar unrhyw rheilffordd ym Mhrydain wedi cario cymaint ar un siwrnai.

Defnyddiai’r Rheilffordd y cerbydau mwyaf gyda gyriant trydan a adelladwyd ar gyfer gwasanaeth ym Mhrydain – 106 sedd.

Hon oedd yr unig rheilffordd ym Mhrydain (ac o bosibl, trwy’r byd) a reolwyd gan gwmni bws.

Cynhaliwyd cystadleuaeth gan y South Wales Evening Post, y Swyddfa Bost, a Chymdeithas Rheilffordd y Mwmbwls, i ddod o hyd i’r dyluniad gorau ar gyfer y clawr coffaol.

Yr enillydd oedd Mrs J. Smith, Sgeti, Abertawe. Dylunydd clawr y Llyfryn oedd Mr C. J. Phipps, Sgeti, Abertawe. Dyluniwyd y llawnod dariuniol gan fyfyriwr yn Athrofa Addysg Uwch Gorllewin Morgannwg.

Testun y tu mewn i’r pamffled.

Mae’r Clawr Coffaol hwn yn nodi 175ain cylchwyl Rheilffordd y Mwmbwls.

Pasiwyd deddf gan y Senedd ar y 29ain o Fehefin 1804 i adeilad rheilffordd yn Sir Forgannwg, o Abertawe i bentref Ystumllwynarth. Pwrpas y Rheilffordd oedd datblygu’r pyllau haearn a’r chwareli calchfaen yn y Mwmbwls.

Mae’r 25ain o Fawrth 1807 yn ddiwrnod cofiadwy ym myd rheilffyrdd oherwydd dyma ddiwrnod agor y Rheilffordd Cario Teithwyr cyntaf yn y byd. Agorwyd hon ddwy flynedd ar ôl Brwydr Trafalgar, yn ystod teyrnasiad Siôr Ill, a thynnwyd y cerbydau gan geffylau. Ni ddefnyddiwyd pŵer ager nes 1877.

Gwelodd dechrau’r ganrif hon uchafbwynt Rheilffordd y Mwmbwls. ‘Roedd mynd ar y daith beryglus ac anturus ar y “Puffing Billy” i’r Mwmbwls yn hwyl fawr, yn enwedig ar Ŵyl Banc. ‘Roedd gallu gadael y trên a cherdded wrth ei ochr am ran o’r siwrnai yn ychwanegu at lawenydd yr achlysur. Enillwyd llawer o geiniogau gan blant yn performio olwyndroeon a champau acrobatig wrth ochr y trên fel y pwffiai yn fawreddog tua’r Mwmbwls.

Mor llawn oedd y trên y dyddiau hynny, a gellid gweld teithwyr yn hongian, fel llygaid meheryn, wrth unhyw beth cyfleus, ac hyd yn oed y tu allan i’r cerbydau. Ystyrid hyn yn rhan o’r pleser.

Ym mis Mawrth 1929 rhedodd y trên ager olaf dros y Rheilffordd a dechreuwyd ar y gwasanaeth trydan. Defnyddiwyd tri ar ddeg o geir dec-dwbl, pob un yn cario 106 o deithwyr, – 48 ar y llawr isaf a 58 ar y llawr uchaf. Hwy oedd y cerbydau tram trydan mwyaf i wasanaethu ym Mhrydain.

Caewyd y Rheilffordd ym mis lonawr 1960 er mwyn gwneud lle i drafnidiaeth ffordd.

Ffurfiwyd Cymdeithas Rheilffordd y Mwmbwis ym 1976 er mwyn ceisio ailagor rhan o’r hen Rheilffordd ac i hybu diddordeb yn ei hanes.

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *