Bydd Swyddfa’r Post yn nodi achlysur cyhoeddi stampiau newydd trwy anfon cofrodd Amlen Diwrnod Cyntaf gyda’r stampiau ar y blaen, at y rheiny sy’n dymuno ei dderbyn (fel arfer casglwyr stamps – philatelists). Bydd yr amlen addurnedig yn cael ei anfon ar Ddydd Cyhoeddiad Cyntaf y stampiau, ac yn aml yn cynnwys cerdyn gyda mwy o wybodaeth am yr achlysur. Nid y Post Brenhinol a Swyddfa’r Post yn unig sy’n gwneud hyn.
Dros y blynyddoedd mae amrywiaeth o ddigwyddiadau wedi arwain at gyhoeddiad newydd o stampiau, ac Amlen Diwrnod Cyntaf yn sgil hyn. Fel y disgwyl, digwyddiadau brenhinol fel y Juwbilî a phriodasau, ond hefyd cyfresi o stampiau i ddathlu anifeiliaid, ceir, dyfeiswyr, ac adeiladau, fel rheol â chysylltiad ag Ynysoedd Prydain, ond nid pob tro. Unai fel rhan o gyfres, neu fel digwyddiad ar ben ei hun, bydd agwedd o Gymru’n cael ei nodi. Mae nifer wedi bod dros y blynyddoedd.

