Angof Cymru

Yn 2010 darlledwyd cyfres radio A History of the World in 100 Objects ar BBC Radio 4. Hanes detholiad o 100 gwrthrych mwyaf arwyddocaol yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain sy’n cael ei adrodd. Cyflwynwyd y gyfres ardderchog gan Neil MacGregor, gyda phob rhaglen o hyd ryw 15 munud. Mae’n bosib eu lawr lwytho un ai fel podlediad neu o wefan y BBC. Un o’r 100 gwrthrych yw Clogyn Aur yr Wyddgrug.

Clogyn Aur yr Wyddgrug (c. 2000 CC)

Egyr MacGregor y gyfres gan sôn am farw seren yn 1054, a dychmygu trigolion y byd yn syllu i’r awyr. Beth oedd y bobl yma yn ei wneud, yn ei greu, yn ei feddwl? Tua’r un pryd yr oedd pyramidiau’n cael eu codi ar lannau afon Mississippi, pres papur mewn defnydd yn Tsieina, Baghdad oedd dinas fwyaf y byd, Ghana gydag ymerodraeth fawr yng ngorllewin Affrica, a Harold Godwinson yn disgwyl Wiliam.

O ystyried y 100 gwrthrych, mae’n bosib dilyn taith gyffredinol dynoliaeth trwy ddarn bach o amser. Ond pa 100 gwrthrych sy’n cynrychioli hanes Cymru orau? Mae modd dilyn hanes Cymru trwy weithiau ysgrifenedig sy’n cofnodi digwyddiadau. Gweler Hanes Cymru, John Davies, y Gododdin neu Cerddi’r Cywilydd gan Gerallt Lloyd Owen.

Ond mae rhywbeth gwahanol parthed gwrthrychau diriaethol. Dadl yr Athro César Hidalgo yw bod gwrthrychau’n cynrychioli dychymyg wedi ei grisialu. Bod pob gwrthrych a wnaethpwyd gan ddyn wedi bodoli, ar un adeg, fel syniad neu ddychymyg ym mhen rhywun.

O ystyried y Clogyn Aur, pe bawn yn ei bwyso, bydd ei werth yn uwch na bloc solet o aur o’r un pwysau. Fel rhan o’r arwyddocâd hanesyddol, mae’r gwerth ychwanegol yn deillio o’r ardduniadau a’r medrau yr oedd ei angen i wneud y darn cain. Nid yn unig y gwneud gyda’r dwylo, ond y defnydd a’r dyfeisio o gyfarpar. Mae’r gallu i greu’r fath beth yn dibynnu ar wybodaeth a medrau, sef y modd o allu cymhwyso’r wybodaeth.

Cred haneswyr yw bod y wybodaeth a’r medrau yr oedd ei angen wneud y Clogyn Aur wedi ei drosglwyddo o wledydd pell – nid rhywbeth mympwyol yn nychymyg y Cymry – ac yn enghraifft o wybod digrybwyll (tacit knowledge).

Un o lyfrau César Hidalogo yw Why Information Grows?, sydd yn llyfr economeg. Mae’n ceisio egluro sut bod ffurfio cymdeithasau ac economïau yn dibynnu ar dwf rhwydweithiau, sy’n hwyluso trosglwyddiad gwybodaeth, a’r rhwydweithiau hyn yn fodd o gynnal a chadw gwybodaeth. Mae’n anodd mesur beth yw’r wybodaeth hon: gall gynnwys medrau clinigol a gwybodaeth anianeg ddoctor, neu’r ymddiriedaeth sydd ei angen i berson mewn banc fenthyg pres i gwsmer. Nid yw’n wybodaeth ffurfiol, nid yw’n uniongyrchol, ac nid yw’n hawdd ei drosglwyddo o un person i’r llall.

Yr anhawster hwn o drosglwyddo gwybodaeth a medrau – gwybod digrybwyll – o un lle i’r llall, sy’n ei gwneud hi’n anodd ‘creu’ cymdeithasau neu economïau. Maent yn ffurfio’n naturiol wrth i ‘wybodaeth’ ddod yn gynhenid o fewn y cysylltiadau, a hynny pan fo’r amodau’n ffafriol.

Mae’r Clogyn Aur yn fwy na chlogyn aur. Yn fwy na wrthrych o fetel drud, yn gynhenid ynddi yw dychymyg, medrau a chynrychiolaeth ffisegol o gymdeithas yng Nghymru heddiw tua 4,000 o filltiroedd yn ôl. O fynd yn ôl at farw’r seren yn 1054, mae’n bosib bod y digwyddiad hwn wedi effeithio ar ddychmygion pobloedd y byd yn wahanol iawn. O ystyried bod iaith yn cael ei ddisgrifio fel gwisg dychymyg, dylid ystyried gwrthrychau fel mynegiad ffisegol.

Fel Dur Damascus, dur gwydn hanesyddol o Ddamascus a ddefnyddid i wneud cleddyfau, mae’r modd o’i greu bellach yng angof, ond mae’n giplun o ddysg a medrau’r pobl ar y pryd.

This entry was posted in Cyffredinol. Bookmark the permalink. Post a comment or leave a trackback: Trackback URL.

Post a Comment

Your email is never published nor shared. Required fields are marked *

You may use these HTML tags and attributes <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <s> <strike> <strong>

*
*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.