Cynhadledd Ryngwladol y Coleg Cymraeg 2014

Heddiw (3ydd Gorffennaf), yr ydwyf yn cyflwyno poster sy’n grynodeb (cryno iawn!) ar waith fy noethuriaeth. Yr ydwyf wedi bod wrthi’n ymchwilio celloedd heulol organig (paneli solar plastig), ac edrych ar sut maent yn torri a’r hyn i’w hytyried i’w gwella. Byddaf yn cyflwyno poster ar y gwaith yng Nghanolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd, rhwng 13:00 a 14:00 ar Lanfa Lefel 2, er yr ydych yn rhydd i’w weld unrhyw amser rhwng 09:30 a 16:00.

poster cynhadledd ryngwladol ccc 2014

Nid ydwyf wedi gwneud llawer gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn rannol gan nad ydwyf yn cael fy nghyllido ganddynt, ond yn bennaf oherwydd fy niffyg i sylweddoli ar y cyfle.

Gallwch unai ddod i’m gweld, edrych ar y llun, neu lawrlwytho’r PDF.

This entry was posted in Uncategorized. Bookmark the permalink. Post a comment or leave a trackback: Trackback URL.

2 Comments