Towns in Britain, Jones the Planner

38_book_cover_FINAL5_web

Un blog dwi wedi bod yn ei ddilyn ers amser yw un Jones the Planner, ble mae Adrian Jones sy’n gynllunydd trefol, a Chris Matthews sy’n hanesydd a dyluniwr graffeg, yn trafod y da a’r drwg o drefnu a datblygiad trefi dros Ewrop – Lloegr yn bennaf, ond maent wedi trin Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd. (Magwyd un o’r awduron yng Nghaerdydd.)

Mae’r blog yn apelio’n fawr ataf gan fy mod yn hoff o grwydro a syllu ar bensaernïaeth, ystyried sut y datblygodd cymunedau, a cheisio edrych am batrymau. Yn ôl eu hastudiaeth o Gaerdydd, mae’r beirniadaeth yn amlwg – bod creu boulevard Rhodfa Lloyd George i geisio cysylltu’r Bae â’r canol wedi methu, a dylai ail-ddatblygiad y Bae wedi cychwyn gydag adeiladau Sgwâr Mount Stuart. Ar y llaw arall, mae’n nodi bod ail-ddatblygiad dociau Abertawe wedi bod yn fwy o lwyddiant na un Caerdydd, wrth geisio greu ryw gydlyniad gyda gweddill y ddinas.

Gallwch ddarllen eu hastudiaethau diddorol a chwaethus ar eu gwefan, ond dwi’n awgrymu i chi brynnu’r llyfr sydd wedi ei brisio ddigon rhesymol.

This entry was posted in Uncategorized. Bookmark the permalink. Post a comment or leave a trackback: Trackback URL.

Post a Comment

Your email is never published nor shared. Required fields are marked *

You may use these HTML tags and attributes <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <s> <strike> <strong>

*
*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.