Jamie Jones

995647_10152741257918764_5431830652697048702_n

Yn ddiweddar mae Jamie Jones, a fagwyd yng Nghaernarfon, wedi bod yn cynnal noson Paradise yng nghlwb nos DC-10 yn Ibiza ar ddydd Iau. (Mae’n droellwr sy’n ymweld â digon o lefydd eraill hefyd.) Rhywsut mae wedi mynd ati i fod yn un o arweinydd genre deep house a blasau eraill, gyda cherddoriaeth â bas trwm, ac eraill mwy ysgafn sy’n cydfynd â machlud haul.

Paradise

Llun o tu mewn i DC-10

Pam sôn amdano? Yn fy marn i, mae’n dipyn o arloeswr, ond eto yn unigolyn sydd wedi dianc rhag sylw cyfryngau Cymru. Bosib gan nad yw’n rhan o’r brif ffrwd? Nid yw ei fath o gerddoriaeth yn debyg o gael ei chwarae ar Radio Wales na Radio Cymru, a buaswn ddim yn disgwyl ei weld yn 20-i-un Golwg chwaith.

Ond a yw’n ‘Gymro’ arall sydd wedi ffoi o Gymru ar y cyfle cyntaf? Mewn cyfweliad gyda Hunger TV, mae’n nodi nad oedd y sîn cerddorol lleol yng Nghaernarfon yn apelio ato gan fod ei gyfoedion yn gwrando ar Oasis a bandiau Cymraeg eu hiaith. Gan ei fod yn crybwyll y ffaith bod bandiau iaith Cymraeg ddim at ei ddant, cymaint ag yr oedd Oasis, mae rywsut yn beth pwysig. Mae’n awgrymu ei fod yn perthyn i Gymru, ond nid y Gymru prif-ffrwd. Oherwydd hynny, mae’n bwysig i ni feddiannu’r arloeswyr hyn a’u dathlu fel un ohonom ni.

This entry was posted in Uncategorized. Bookmark the permalink. Post a comment or leave a trackback: Trackback URL.

Post a Comment

Your email is never published nor shared. Required fields are marked *

You may use these HTML tags and attributes <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <s> <strike> <strong>

*
*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.