OpenStreetMap, Merkaartor a Chartograffiaeth

Cartograffiaeth yw’r grefft o greu darluniau cyffredinol neu gymleth sy’n cyfleu nodweddion ffisegol fel ffyrdd neu fynyddoedd, neu nodweddion mwy haniaethol fel ffiniau gweinyddol. Mapiau – sydd yn deillio o wybodaeth gofodol. Er fod y syniad yn digon syml ac yn beth sydd wedi ei gyflwyno i ni ers yn blant, gall fod yn andros o ddefnyddiol a phwerus.

Gall cartograffiaeth gael ei dderbyn fel celf neu wyddor. Celf yn y modd mae gwybodaeth yn cael ei gyflwyno i’r defnyddiwr, a hwnw mewn dull priodol, lliwgar a hwylus; gwyddonol gan fod angen cynllun o sut i greu fap o ystadegau neu greu topoleg o nodweddion ffisegol fel map tiwb Llundain. Gweler isod.

Nid oes raid i gartograffiaeth fod yn llym gysylltedig â daearyddiaeth. Gall cael ei ddefnyddio mewn meysydd cymdeithasegol neu hyd yn oed llenyddiaeth. Gweler y llun isod ar sut mae cymeriadau gweithiau William Shakespeare yn croesi ei gilydd. Wedi dweud hyn, mae cartograffiaeth yn dibynnu ar wybodaeth gofodol sy’n rhoi mapiau i ni. Tydi map ddim pob tro yn gysylltiedig â chartograffiaeth. Cerwch i wefan Information is Beautiful am sawl enghraifft sydd ddim yn defnyddio unrhyw wybodaeth gofodol o gwbl.

Mae bywydau nifer wedi cael eu newid gyda dyfodiad Google Maps, a chyn hynny gwefannau fel StreetMap a MultiMap. Ym mhob enghraifft maent wedi bod yn defnyddio gwybodaeth caeëdig, unai wedi ei gasglu gan nhw eu hunain neu’n cael ei ddefnyddio drwy drwydded gan yr Arolwg Ordnans neu gwmni arall. Gwefan sydd yn cynnig gwasanaeth mapio a hynny’n god agored yw OpenStreetMap. Disgrifir fel Wikipedia’n cwrdd â mapiau – yn rhydd i bawb olygu a chyfrannu cymaint a phosib.

Yn y rhifyn cyfredol o’r cylchgrawn Wired (Medi 2010) mae sôn am OpenStreetMap a sut i gyfleu gwybodaeth yn weledigaethol. Cafodd defnydd mawr o OpenStreetMap ei wneud adeg y trychineb yn Haiti. Wrth i gyrff cymorth rhyngwladol geisio teithio trwy Haiti o’r Weriniaeth Dominicaidd, yr nifer yn mynd ar goll. Oherwydd hanes Haiti, does ddim llawer o fapio wedi digwydd neu ddim byd digon dibynnol a chyfredol. Mi wnaeth y cymhorthwyr cyntaf i Haiti gwneud yr ymdrech i ddefnyddio dyfais GPS i fapio prif lwybrau’r wlad. Cafodd hyn ei gofnodi ar OpenStreetMap a oedd wedyn wedi ei olygu arlein i symleiddio cromliniau fewn i linellau mwy syth; nid i gynrychioli’n union ond i roi syniad o’r tirwedd – ble mae afonydd, coedwigoedd, pontydd.

Gan fod OpenStreetMap yn god agored mae modd ychwanegu at y peth, nid yn unig gyda gwybodaeth atodol, ond y system ei hun. Mae cynllunio sylweddol y tu ôl i’r system sy’n caniatau i bobol nodi pob math o nodweddion gan gynnwys blychau post, coed unigol, safle bws neu dafarn lleol. Gall gwybodaeth helaeth gael ei ychwanegu fel enwau Cymraeg neu Saesneg, enw tafarn, haen ffordd os oes mwy nag un ffordd yn croesi ei gilydd.

Gyda OpenStreetMap yn god agored sy’n cynnwys API (rhyngwyneb rhaglennu rhaglen?) gall meddalwedd gael ei ddatblygu i ychwanegu, golygu neu echdynnu gwybodaeth. Un o rhain yw Merkaator (swnio’n debyg i Mercator yn tydi?), meddalwedd goygu cod agored. Yng Nghymru mae llefydd fel Caerdydd wedi ei fapio’n reit dda hyd yn hyn. Mae hwn wedi gael ei wneud yn haws gyda stadau o dai sydd a ffyrdd syth sy’n croesi megis matrics. Nid yw llefydd eraill wedi eu mapio cystal. Edrychwch ar rywle fel Bae Colwyn sydd a phoblogaeth reit uchel a sydd wedi ei ledaenu, nid yw’r hyn sydd wedi ei fapio fel sy’n bodoli go iawn. Yn hyn dwi’n ceisio’i ddweud yw fod angen i bobl Cymru fynd ati i fapio Cymru! Gall hyn cael ei wneud gyda theclynnau GPS neu feddalwedd ar iPhone, neu ffôn sy’n rhedeg Android. Pa bynnag ffôn neu ddyfais sydd gennych gallwch ddatblygu meddalwedd iddo. Un tasg sydd angen ei wneud yw cyfieithu Merkaartor i’r Gymraeg.

O safbwynt Cymraeg gall nodweddion dderbyn unrhyw enw, gyda thag enw Saesneg neu enw Cymraeg. Tagiau posib yw ‘name’, ‘name:cy’ a ‘name:en’. ‘name’ sy’n cael y blaenoriaeth o’r tri neu fwy. Pwy sydd i benderfynu pa enw sydd ‘fwyaf swyddogol’? Pwy sydd am benderfyny os na Caerffili neu Caerphilly sydd am ymddangos, neu fod afon yn cael ei enwi’n Afon Clwyd yn lle River Clwyd. Gall ‘name’ cael ei lenwi gyda River Clwyd tra fo’r tag ‘name:cy’ yn cael ei lenwi gyda Afon Clwyd. Unrhyw ffordd bydd map yn dangos River Clwyd, a thrwy pori ymhellach bydd Afon Clwyd yn ymddangos, er fod gan yr afon enw Cymraeg cynhenid. Byddai lle fel Abertawe yn gallu cael ei drin yn fwy cyfartal gan fod yr enw Saesneg Swansea ag ystyr hollol gwahanol, a fod blaenoriaeth dros un enw neu’r llall yn amhosib ei wneud heb fod ag agenda. Isod mae llun o Merkaartor a sut mae modd golygu a gweld gwybodaeth.

Cofnodwyd yn Cartograffiaeth, Cymdeithas | 4 Sylw

Chromoscope

Chromoscope yw gwefan sydd yn eich gadael i grwydro ein galaeth, y Llwybr Llaethog, trwy amrediad o donfeddi penodol. Os nad ydych yn deall y frawddeg gyntaf, golyga hyn ei bod yn bosib gweld lluniau pelydr-X, isgoch neu lliw arferol o’r galaeth ble bod y ddaear. Y peth diddorol a defnyddiol am hyn yw fod llygaid dyn wedi ei addasu i weld amrediad penodol o donfeddi golau – mae’r retina ar gefn y llygaid dim ond yn sensitif i rai donfeddi, a rhain yw’r tonfeddi yr ydym yn eu synhwyro fel lliwiau gwahanol. Nid ydym yn gallu gweld pelydrau radio na gama, er bod rhain yn athreiddio byd natur.

Gall y math o belydrau roi syniad o’r hyn sy’n eu hallyrru; daw pelydrau-X o sêr gryno, sêr niwtron a thyllau duon. Pelydrau gama o ffrwydriadau mwyaf grymus natur, ym mhellteroedd y bydysawd, ble mae uwchnofa’n creu twll du ac yn troi’n hypernofa.

Y rhan orau o’r gwefan? Mae ar gael yn y Gymraeg. Ymddangosa’n y Gymraeg os yw iaith eich porwr wedi ei osod i’r Gymraeg, neu fedrwch ddewis iaith ar y gwefan ei hun.

Cofnodwyd yn Gwyddoniaeth | 2 Sylw

Superfuture Caerdydd

Uchod yw rhan o fap Superfuture o dref Chelsea yn Llundain. Ganwyd y wefan Superfuture gan unigolyn a oedd yn awyddus dangos ymwelwyr ble’r oedd canfod siopau cŵl Tokyo yn Siapan, neu ail-ddylunio’r Map Twristaidd. Yn nyddiau cynnar y gwefan dim ond mapiau Tokyo, Efrog Newydd a Sydney oedd ar gael, ond bellach mae wedi helaethu gan adael i gymaint o drefi eraill cael eu hychwanegu.

Yr unig gofnod o unrhyw le yng Nghymru yw adolygiad o’r siop Drooghi yn Arcêd y Stryd Fawr, sydd wedi cau lawr sawl blwyddyn yn ôl rŵan. Ar wahân i’r manylyn bach yma, nid oes unrhyw sôn am siopau nac unrhyw sefydliadau eraill.

Gan fod Caerdydd yn gyflym newid, er gwaeth er gwell, un peth sydd yn digwydd yw’r agor o siopau/bwytai/etc newydd. Gall fod yn ddefnyddiol petai fap à la Superfuture o Gaerdydd yn cael ei greu gan rywun gyda doniau celf well na fi!

Cofnodwyd yn Cartograffiaeth, Cymdeithas | Rhoi sylw

Contour USB, Bayer

I’r 2.5 miliwn o bobl yn y DU sy’n dioddef o glefyd siwgr, gall bywyd fod yn anodd pan fo angen rheolaeth lem dros ymborth, ymarfer corff a chymryd ffisig. Clefyd siwgr yw anallu’r corff i reoli lefelau siwgr y gwaed. Gall diffyg siwgr gwaed arwain at syrthni, anymwybodaeth a hyd yn oed marwolaeth, tra bydd gormod o siwgr gwaed arwain at ddifrod i organau.

Y dull hawsaf i nifer o bobol y DU ar wahân i reoli ymborth yn llym, yw mesur lefelau siwgr gyda diferyn o waed. Ers tipyn mae teclynnau ar gael i fesur y lefelau a hyn yn unig. Dyfais newydd yw’r Contour USB gan Bayer. Datblygiad yw hwn o’r hyn sydd ar gael yn barod sydd yn cynnig cymaint mwy o reolaeth ynghyd a meddalwedd cyfrifiadur. Yr ychwanegiad pwysig gyda’r Contour yw’r gallu i gadw dyddiadur a chofnodi eich arferion o ddydd i ddydd, gyda diferyn bach o waed.

Gadawa hyn i bobl weld sut mae rhai bwydydd yn effeithio ar eu lefelau siwgr yn wahanol i eraill, a’u cynorthwyo i ddewis pa fwydydd sydd orau am eu gweithgarwch. Gellir fyny-lwytho’r wybodaeth i gyd a chadw dyddiadur cyflawn o’ch ymarferion.

Mewn cyd-destun Cymraeg does dim i’w weld yn rhwystro’r ddyfais yma rhag cael y rhyngwyneb yn yr iaith. Mae i’w weld ar gael mewn sawl iaith wahanol yn barod, sy’n rhoi cyfle i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol mynnu’r Gymraeg os ydynt am ddod i gytundeb a’u prynu.

Cofnodwyd yn Gwyddoniaeth, Technoleg | 1 Sylw

Duemilanove a BakerTweet

Microreolwr yw’r Duemilanove (dwy-fil-a-naw mewn Eidaleg), un o nifer gwahanol gan Arduino. Mae cof i ddal cod yn bresenol gyda 14 porth mewnbwn/allbwn digidol ac analog, a phyrth trydan a USB. Gallwch ychwanegu modiwlau i ymhelaethu gallu’r microreolwr fel technoleg Bluetooth neu unrhyw gydran electronic arall. Daw grym Duemilanove gan feddalwedd Arduino sydd yn god-agored a wedi ei seilio ar yr iaith rhaglennu Processing. Gall unrhyw god gael ei newid gyda chysylltiad USB i gyfrifiadur yn rhedeg meddalwedd Arduino.

Daethais o hyd i Duemilanove wrth weld poster yn adran Cyfrifiadureg, Prifysgol Bangor. Fel rhan o brosiect gradd yr oedd y myfyriwr Jack Warder wedi datblygu system ble’r oedd hi’n bosib creu patrymau gweledol sy’n ymateb i gerddoriaeth, a rheoli goeuadau yn ddi-wifr gydag iPhone neu iPod. Yr oedd microfwrdd Duemoilanove gydag ategyn wedi ei gysylltu a phrotocol DMX, dull poblogaidd o reoli goleuadau llwyfan neu theatr, ac yn gallu derbyn gwybodaeth yn ddi-wifr. Cafodd meddalwedd TouchOSC ei osod ar iPhone/iPod Touch, sy’n eich galluogi i yrru a derbyn gwybodaeth yn ddi-wifr gyda nifer o lusgwyr a botymau. I greu’r delweddau sy’n ymateb i gerddoriaeth, defnyddiwyd Processing. Isod mae llun (gwael) o’r poster oddi ar fy ffôn symudol.

Daw un defnydd diddorol o Duemilanove gan gwmni Poke, sydd wedi clymu’r microreolwr â Thwitter trwy rhyngwyneb taclus a syml. Mewn bocs gwyn mae’r microreolwr gyda modiwl ether-rwyd, sgrîn matrics-dot, rhan o hen orsaf di-wifr Linksys, erial, swtis troellog a chyflenwad trydan. Mae’r modiwl ether-rwyd yn galluogi’r Duemilanove i gysylltu â rhwydwaith; yn yr achos yma, mae’r modiwl yma’n cysylltu â hen orsaf di-wifr.

Yn syml mae rhyngwyneb gwe, sydd angen i chi mewngofnodi, yn eich galluogi rhestru dewisiadau gydag enw a disgrifiad, sydd wedyn yn gallu cael ei drosglwyddo i’r bocs gwyn. Gellir symud rhwng y dewisiadau gyda’r swits troellog sydd yn dangos yr enw ar y sgrin matrics-dot. Pan wnewch wasgu’r botwm, gwneith yrru’r disgrifiad a mewnbynwyd trwy’r rhyngwyneb gwe i gyfrif Twitter.

Gosodiad Poke oedd bocs ar gyfer y popydd Albion’s Oven, sydd cyferbyn i’w swyddfa, ble’r oedd modd hysbysu cwsmeriaid trwy Twitter fod bara neu gwcīau newydd ddod o’u popty. Os na torthau (pam ddim tyrth?) brown sydd yn ffres o’r popty, troi’r swits nes fod Wholemeal Bread ar y sgrîn, wedyn gwasgu’r botwm. Ar Twitter fydd hwn yn ymddangos:

Crackly shells disguise a soft centre of gorgeous cloudy dough. Temptingly toasty fresh Wholemeal Tin Loaf.

Ffrwd Twitter Albion’s Oven. Mi wneith y fideo ma fy nghynorthwyo gyda’r disgrifiad uchod:

Yr ydwyf ar hyn o bryd yn ceisio datblygu un neu ddau o syniadau sy’n defnyddio’r microreolwr Duemilanove. Gwnaf eu cofnodi pan fyddent yn barod.

Cofnodwyd yn Technoleg | 2 Sylw

Croesi Traeth

Wrth dderbyn her gan daflog ar ei gyfrif Twitter am luniau o’r haul yn machlud, penderfynais gymryd camera wrth fynd i redeg heno. Un nodwedd o’r camera yw’r gallu i recordio ffilm, felly dyma cyfres o luniau i chi:

Cofnodwyd yn Fy Milltir Sgwâr | 1 Sylw

Tag Microsoft

Yr yn hen ddyddiau yr oedd perchenog yn cofio prisiau unigol nwyddau ei siop. Yna daeth codau bariau – cyfres o linellau o drychion gwahanol a chyfres o rifau o’u tanodd. System llinol yw hwn sydd yn ymddwyn fel allwedd cronfa-data yn unig. Tag adnabod ydyw, gyda unrhyw wybodaeth fel pris neu dull o gadw golwg ar sdoc yn cael ei gadw ar gronfa-data canolog. Mae rhai wedi bod yn greadigol ac wedi creu dyluniadau gwahanol, ond sydd dal yn cynnwys cyfres o linellau un dimensiwn. Gallwch weld rhai o’r dyluniadau ar wefan Barcode Revolution.

Mathau o god bar sydd i’w weld yn amlach yw’r rhai dau-dimensiwn. Wrach eich bod wedi gweld rhai matrics eisoes ar label barsel neu ddilledyn. Mae dros ugain o’r math yma’n bodoli gan gwmnioedd gwahanol, ond yn wahanol i’r rhai un-dimensiwn nid oes cronfa-data canolog. Cedwir gwybodaeth yn y tag ei hun, ac nid mewn cronfa-data sydd yn gwneud hi’n fwy defnyddiol a symudol. Cai’r tag ei ddarllen gyda chyfrifiadur/ffôn symudol gan ddefnyddio darllenydd laser neu gamera. Gallwch gael mwy o wybodaeth o wefan BarCode 1.

Pan fo cyfrifiaduron yn cael eu defnyddio nid yw Microsoft ymhell. Un o’i ddyfeisiadau yw datblygiad tag dau-dimensiwn newydd, o’r math High Capacity Color Barcode (HCCB) (Codfar Lliw Cynhwysedd Uchel?) Microsoft Tag. Tag dau-dimensiwn sy’n gyfuniad o dechnolegau blaenorol y mathau un a dau-dimensiwn, ond tipyn mwy lliwgar a gyda’r gallu i’w gynnwys fel rhan o ddelwedd.

Yn debyg i’r math un-dimensiwn mae’n rhannol dibynnu ar gronfa-data canolog gan Microsoft (problem! – syniad system DNSaidd yn well bosib?), ond hefyd yn cynnwys gwybodaeth, er enghraifft dolen at wefan neu destun byr. I ddarllen y tag mae’n defnyddio technoleg mae nifer yn ei ddefnyddio’n barod sef camera ar ffôn symudol, mewn cyd-weithrediad â rhaglen sydd ar gael i’w lawrlwytho am ddim. Y bwriad yw gosod y tagiau yma ar boster neu gyhoeddiad, ble medrwch gadw dolen neu enw brand neu ddigwyddiad os ydych mewn brys.

Dyma fy nhag i ond dwi heb drafferthu gwneud dyluniad gwell ohono. Gallwch ei ddarllen?

Cofnodwyd yn Technoleg | Rhoi sylw

Hen Golwyn

Hen Golwyn

Tra’n crwydro ddoe, dois ar draws hwn wrth ymyl Llawr Pentre yn Hen Golwyn. Mae’n reit diddorol gallu darganfod pethau fel hyn mor agos i gartref.

Cofnodwyd yn Fy Milltir Sgwâr | Rhoi sylw

BOINC

Safa’r llythrennau BOINC am Berkeley Open Infrastructure for Network Computing. Dull o gyfrifiaduro paralel ydyw sy’n addas ar gyfer datrys problemau enfawr. Mewn cyfrifiaduron gyda chaledwedd cyffredin bydd un casgliad o reolau yn cael eu rhedeg a’u gorffen cyn gall y set nesaf gychwyn. Mae hyn yn dderbyniol i’r rhan fwyaf ohonom sydd yn defnyddio ‘Office’ ac yn darllen ebost, ond i rai tasgau mae’n bell o fod yn addas.

I’r tasgau ble nad yw cyfrifiadur cyffredin yn ddigonol, mae uwch-gyfrifiaduron. Fel rheol bydd uwch-gyfrifiadur angen llawer o le (ystafell fawr neu adeilad cyfan), cyflenwad mawr o drydan a phobl gyda sgiliau cyfrifiaduro lefel academaidd. (Mae IBM yn rhagori yn y maes yma.) Y pethau sydd angen cymaint o bŵer cyfrifiaduro yw prosiectau gwyddonol. Prosiectau sy’n ceisio datrys penblethau mathemateg a gwyddorau bywyd, fel canfod rhifau cysefin enfawr neu wellhad i gancr. Caiff lawer o amser ei dreulio wrth redeg modelau sy’n ceisio rhoi atebion, felly mae system o redeg un set o brosesau cyn i’r nesaf gychwyn ddim digon da.

Nid yw mynediad at uwch-gyfrifiadur yn gyfleus nac yn rhad, felly mae moddion eraill ar gael. Un o rain yw’r dull o gyfrifiaduro paralel, ble caiff sawl proses ei redeg ar y cyd. Er bod uwch-gyfrifiaduron yn cyfrifiaduro’n baralel, mae oll yn digwydd ar un peiriant. Trwy ddefnyddio dull gwahanol, gall prosiect gwyddonol cael ei rannu’n sawl darn a’i ddosrannu ar hyd nifer o gyfrifiaduron. Nod BOINC yw rhoi porth i brosiectau gwyddonol defnyddio caledwedd eich cyfrifiadur tra eu bod yn segur. Gall eich cyfrifiadur fod yn rhedeg meddalwedd i ganfod gwendid yn y firws HIV, tra eich bod yn gwneud paned. Cwbl sydd angen ei wneud yw lawr lwytho BOINC ac ‘atodi at brosiect‘, ble byddwch yn derbyn ffeiliau i’w prosesu a fydd wedyn yn cael eu gyrru’n ôl. Bydd hyn oll yn digwydd yn awtomatig.

Rhowch dro arni!

Cofnodwyd yn Gwyddoniaeth, Technoleg | Rhoi sylw

Boxee

Wrth i’ch teledu a’r rhyngrwyd ddod yn fwy ynghlwm a’i gilydd, mae rhai wedi ceisio hwyluso’r berthynas. Dyma i chi meddalwedd o’r enw Boxee, sydd i’w arsefydlu ar gyfrifiadur sydd wedi ei gysylltu a’ch teledu. Pwrpas Boxee yw rhoi porth i chwarae fideoau, cerddoriaeth a dangos lluniau sydd wedi eu cadw ar ddisg caled eich cyfrifiadur neu oddi ar y rhyngrwyd. Bydd Boxee hefyd yn cofnodi eich defnydd o’r hyn yr ydych yn ei gyrchu a’i rannu – tebyg i sut mae last.fm yn gweithio. Felly, meddalwedd cyfryngol cymdeithasol!

Y bwriad yw rhedeg Boxee ar gyfrifiadur bach sydd wedi ei gysylltu â’ch teledu. Un o’r cyfrifiaduron addas cyntaf oedd yr Apple MacMini, ond gellir defnyddio unrhyw gyfrifiadur, er bydd y rhan fwyaf ohonynt braidd yn fawr i’w gosod yn dwt o dan deledu. Cyfrifiadur bach arall sydd ar gael yw’r Revo gan Acer sydd ar werth am gyn lleied â £150. Ond un cyfrifiadur bach sydd wedi ei greu yn benodol ar gyfer Boxee yw’r Boxee Box gan D-Link, sydd fel y Revo gyda chysylltiad HDMI ond bosib yn fwy ‘ffasiynol’ a hefyd yn cynnwys rheolfwrdd (remote control). Penderfynwch chi.

Gallwch weld o’r llun cyntaf fod y rhyngwyneb yn Saesneg i gyd. Gan fod Boxee wedi ei ddatblygu o’r meddalwedd cod agored XBMC, bosib bod modd lleoleiddio’r meddalwedd a’i gael yn y Gymraeg, ond does dim byd amlwg ynghylch sut i wneud hyn ar y ffora datblygu.

Cofnodwyd yn Technoleg | Rhoi sylw
  • Categorīau

  • Archifau