Treiddiad y Gymraeg ym myd addysg

Gellir dadlau y cychwynodd addysg Gymraeg fodern gyda chyhoeddiad Y Gymraeg mewn Addysg a Bywyd yn 1927, gan ‘Y Weinyddiaeth Addysg’. Nid oes copi rhydd arlein i’w ganfod, ond mae cofnod ar Google Books. Llwyddais i ffeindio ailgyhoeddiad o 1953  yn llyfrgell Safle Normal Prifysgol Bangor, gyda’r map hwn o’r nifer o blant sy’n derbyn addysg Gymraeg yn yr ysgol gynradd.

Dosraniad plant yn derbyn addysg Gymraeg

Dosraniad plant yn derbyn addysg Gymraeg. (Gwreiddiol: 11.5MB)

Mae’r map yn dangos be y byddwn wedi ei ddisgwyl bryd hynny. Addysg Gymraeg mewn ysgolion, yn yr ardaloedd hynny sydd â chanran uchel o siaradwyr Cymraeg. Nid oedd gwybodaeth ar gael am ysgolion uwchradd na phrifysgolion, ond buaswn wedi disgwyl gweld dim patrwm tebyg i addysg gynradd.

Yn amlwg mae addysg uwchradd Cymraeg i’w gael yn y rhanfwyaf o Gymru heddiw, ac yn fwy fwy ym mhrifysgolion Cymru gyda sefydlu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Y patrwm yw twf mewn ‘addysg’, fel sydd wedi ei nodi yn y teitl. Ers y 1950au hyd heddiw, mae addysgu wedi bod yn cynyddu o oedran babanod, hyd gynradd, hyd uwchradd, a rŵan mewn prifysgolion. Y weithred ffurfiol o drosglwyddo gwybodaeth, gwaith sydd wedi ei wneud eisoes, at eraill, sydd wedi cynyddu o ran darpariaeth yn y Gymraeg,.

Y cam nesaf yw cynyddu defnydd o’r Gymraeg ym meysydd ymchwil. Mae hyn yn amlwg wedi bod yn digwydd eisoes mewn pynciau fel y Gymraeg a hanes, ond beth am beirianneg neu gwleidyddiaeth? Y broblem gyda defnyddio rhywbeth fel y nifer o ddoethuriaethau fel ffon fesur, yw bod ymchwil yn cael ei gynnal mewn maes arbenigol cul. I allu derbyn doethuriaeth, rhaid i’r ymgeisydd allu ffeinio unigolion arbenigol eraill i farcio’r gwaith. Cyfrwng Saesneg bydd hyn mwy na thebyg. Caiff doethuriaeth ei ennill ar sail y copi sy’n cael ei farcio, nid ar y gwaith na sut y’i cynhaliwyd.

Mewn gweldydd sydd â ieithoedd cadarn fel yr Almaen, gellir canfod yn aml tudalen agoriadol sydd â ‘Zusammenfassung’ ar y top. Yr arfer yw cyflwyno doethuriaeth Saesneg gyda chrynodebau neu ‘abstract’ yn yr Almaeneg yn gyntaf, a’r Saesneg yn ail. Mae hyn yn sicrhau bod rhan o waith arbennigol, er yn bitw, yn cael ei gyflwyno mewn cyd-destun Almaeneg. Yn ogystal a hyn, mae rhai prifysgolion, fel Prifysgol Melbourne yn Awstralia, yn nodi os yw doethuraeth am gael ei gyflwyno mewn iaith arall, rhaid cynnwys copi ryw 5,000 i 10,000 air sy’n crynhoi gwaith 80,000 o eiriau, yn y Saesneg.

Petai camau fel hyn yn cael ei gymryd yng Ngymru, nid yn unig y byddem yn ychwanegu at gorpws gyda geiriau arbenigol naturiol Gymraeg, ond gallem addysgu pobl gyda’r union wybodaeth a ddysgwyd yma yng Nghymru.

Dysgu ac addysgu, yng Nghymru.

Posted in Uncategorized | 7 Responses

Celfyddyd-X

veldboeket_low

Mewn ysbyty y byddwch yn disgwyl ffeindio pleydrau-x; eraill yn ei ddefnyddio ym meysydd peirianneg, cemeg a ffiseg. Bydd Arie van ‘t Riet yn ei ddefnyddio i wneud celf. Mae’n ffisegydd radiolegol o’r Iseldiroedd sy’n cymryd lluniau pelyd-x o blanhigion ac anifeiliaid ac yn eu lliwio. Gallwch weld mwy o’i waith ar ei wefan, gan gynnwyd fideo TED.

Posted in Uncategorized | Leave a comment

Peryg addasu cnydau’n ennynol

Soniwyd yr wythnos hon, y daw cnydau gyda genynnau addasiedig (genetically modified) i’n siopau yng nghynt na’r disgwyl. Bwriad un grŵp yw datblygu tomatoau sy’n cynnwys y pigment anthocyanin. Anthocyanin sy’n rhoi’r lliw porffor tywyll i lus America, a’r gred yw eu bod y gwrthocsidydd gyda sawl mantais i’n iechyd. Yn ogystal a hyn, mae grŵp arall yn ceisio datblygu cnydau a fydd yn cynnwys omega-3 sy’n gwrthlidiol.

Newyddion da yn tydi? Ond praint mor cadarn yw ein dealltwriaeth o’r gwyddoniaeth? Mae ymchwil o blaid bod gwrthocsidyddion yn fanteisiol, gan eu bod yn adweithio gyda radicalau a fyddai fel arall yn arwain at niweidio celloedd a hyd yn oed arwain at gancrau. Ers peth amser, mae pobl yn hyderus bod bwyta pysgod, sy’n cynnwys omega-3, o fudd i’r galon, cymalau a’r ymennydd. Ond a ydym yn llwyr deall sut mae hyn yn gweithio? Yn y naill enghraifft mae dadlau cadarn yn erbyn.

Ydi o’n syniad da addasu’r byd naturiol, er mwyn i ni geisio mantais, yn seiliedig ar ein dealltwriaeth presenol? Cynnydd gwyddoniaeth yw ei allu i addasu a newid, ac o ganlyniad bydd gwyddoniaeth fory yn wahanol i wyddoniaeth heddiw. Dylem newid ein byd i gyd-fynd â’n dealltwriaeth, neu newid ein dealltwriaeth i gyd-fynd â’n byd?

Posted in Uncategorized | Leave a comment

Ysgrifennu

Sgwennu, sgwennu a mwy o sgwennu!

Os nad ydych yn gwybod eisoes, dwi ym merfeddion doethuriaeth – bellach yn fy nhrydydd blwyddyn – ac erbyn hyn o dan bwysau i ysgrifennu fy nghanlyniadau. Ryw wythnos yn ôl es i weld sut oedd fy mharth newyddsbon.com, ond i sylweddoli nad oedd yn gweithio. Wrth ystyried atgyfodi’r wefan, meddyliais ei fod yn le addas i ymarfer ysgrifennu.

Yr ydwyf wedi clywed droeon am academyddion gwyddorau a pheirianneg yn pwysleisio pwysigrwydd rhyddiaeth. Arferid ysgrifennu mewn llyfrau i gofnodi rhifau neu ddiagramau, ond prin bydd ysgrifennu estynedig i ddigrifio’r gwaith i eraill. Y bwriad yw ymarfer ysgrifennu’n gyffredinol – dod i arfer gyda’r amrywiaeth posib o gychwyn brawddegau – dianc o ddefnyddio “mae” i gychwyn pob brawddeg fel sy’n hawdd gwneud.

Arferais darllen ac ysgrifennu’n reit aml am bethau digon amrywiol, ond nid ar y we; dyma geisio dychwelyd.

Posted in Uncategorized | 2 Responses

Digido’r Tafodieithoedd a Pethau Bychain

Un agwedd o iaith, ac yn fwy perthnasol i mi, yr iaith Gymraeg yw ei thafodieithoedd. Yn aml yr ydym yn clywed am Waldo neu T.H. Parry-Williams yn sôn am eu gwladgawrch a hynny fel ryw fath o dafluniad o’u milltiroedd sgwâr i hyd a lle Cymru. I.e. Golygfeydd a phobl Preseli neu Eryri sy’n ymestyn yn bell heibio’r gorwel. Y nodwedd sy’n rhan o’r bobl yw eu ffyrdd o fyw, sut maent yn cyfathrebu â’i gilydd a hynny mewn modd penodol – cymunedau amaethyddol yn defnyddio geiriau unigryw i ddisgrifio bywyd fferm; cymunedau diwydiannol yn defnyddio geiriau unigryw i ddisgrifio gweithfeydd haearn, glo neu fywyd tref.

tafodiaith1

Agwedd arall o dafodiaith yw ei fod, fel gwyddoniaeth a byd natur, yn rhywbeth sy’n diddori. Wrth i’r byd newid, y Gymraeg yn cilio mewn rhai ardaloedd ac yn tyfu mewn ardaloedd eraill mae’r tafodieithoedd yr ydym yn eu hadnabod yn wynebu newid. I’r rhai sy’n gweld newid eisoes, gall fod yn dorcalonnus wrth i’r tafodiaith ddiflannu’n llwyr neu gael ei llyncu gan dafodiaith cyfagos.

Un ffordd o gofio rhywbeth haniaethol fel tafodiaith yw ei gofnodi, unai ar bapur neu fel sain. Un ymdrech i wneud hyn oedd gan Peter Wyn Thomas a Beth Thomas. Dysgais am eu gwaith Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg: Cyflwyn’r Tafodieithoedd gan Carl Morris draw ar Quixotic Quisling, ble soniodd am greu mapiau o ddefnydd geiriau e.g. pa air yr ydych yn ei ddefnyddio am sweet, boed yn losin, fferen, da-da be bynnag a nodi ar fap ble’r ydych yn byw. Bydd hyn yn galluogi i fap cael ei greu sy’n dangos ardaloedd gyda defnydd geiriau gwahanol.

Fel rhan o’r gwaith, cafodd pobl eu cyfweld a’r ffordd yr oeddent yn siarad, geirfa ac acen, eu recordio ar dâp a’i gofnodi fel testun. Bellach ar wefan Casgliad y Werin, sydd i’w weld gyda dim ond cynnwys Saesneg ar hyn o bryd, mae recordiadau o’r bobl yn siarad yn y gwaith ar gael i’w glywed fan hyn. Byswn i’n deud fy mod yn defnyddio geirfa ac acen sy’n gymysgiad o dafodieithoedd Rhosllannerchrugog, Llansannan a Ffynnongroyw – Cymraeg mae nifer yn ei ddisgrifio fel un Hen Sir y Fflint.

Ar ôl darllen am y llyfr Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg: Cyflwyno’r Tafodieithoedd ar flog Carl, aethais ati i edrych am y llyfr ym Mhrifysgol Bangor. Mae sawl copi i’w gael yn y Prif Lyfrgell a llyfgell Safle Normal. Yr oedd hi’n diddorol gweld y gwahaniaethau yn sut mae pobl yn siarad yn fy milltir sgwâr i, sef gogledd-ddwyrain Cymru, ond braidd yn siomedig nad oedd mwy o bobl wedi eu cyfweld o drefi eraill. E.e. geiriau crochenwyr a ddaeth i gyffiniau’r Wyddgrug ym Mwcle o Swydd Stafford wedi eu derbyn yn y Gymraeg, fel snapyn am egwyl bwyd.

Yr oedd fy nain, ar ochr fy nhad, yn dwad o Ben-y-cae ger Wrecsam – wedi ei magu mewn ffordd unigryw Gymreig. Adeg Nadolig, buasent yn crogi celyn o nenfwd y tŷ – dim sôn o goeden Nadolig – a’i addurno. Yr oedd disgwyl y post a diwrnod o waith ar yr un diwnrod – dim gwyliau. Dysgais heno fod fy nhad gyda hen dâp o fy hen-daid yn darllen llyfr yr ysgrifennodd i ddathlu can-mlwyddiant ei gapel, degawdau yn ôl. Yr ydwyf wedi fy nghynhyrfu bod gofnodiad o dafodiaith a geirfa sydd bosib iawn wedi marw – does neb yn siarad felly heddiw. Fel rhan o ddiwrnod Pethau Bychain, ble mae unigolion yn bwriadu cyfrannu cynnwys Cymraeg i’r wê, hoffaf enwebu fy hun i geisio digido”r hen dâp a’i roi arlein fel cofnod o hanes ddiwylliannol Cymreig.

tafodiaith2 tafodiaith3 tafodiaith4 tafodiaith5 tafodiaith6

Posted in Uncategorized | 4 Responses