Medr (uned: m), yw’r hyd sy’n cyfateb i hyd lwybr a theithiwyd gan olau mewn 1/299,792,458 rhan o eiliad mewn gwactod.
Cilogram (uned: kg), yw uned màs; mae’n hafal i’r prototeip rhyngwladol o’r cilogram.
Eiliad (uned: s), yw amser parhad 9,192,631,770 cyfnod o ymbelydriad sy’n cyfateb i’r trosiad rhwng lefelau egni hyper-fain cyflwr isaf atom cesiwm-133.
Amper (uned: A), yw’r cerrynt cyson sydd, pan wedi ei gynnal ar hyd dau ddargludydd o hyd anfeidrol, gydag arwynebedd trawstoriadol o faint dibwys, a wedi eu gosod 1 medr ar wahân mewn gwactod, yn cynhyrchu grym sy’n hafal i 2 x 10-7 newton y medr o hyd rhwng y ddau ddargludydd.
Kelvin (uned: K), yw uned tymheredd thermodynameg, sef ffracsiwn 1/273.16 tymheredd thermodynamig pwynt triphlyg dŵr.
Candela (uned: cd), yw tanbeidrwydd golau, mewn cyfeiriad perpendicwlar, i arwyneb 1/600,000 medr sgwâr o gorff du ar rewbwynt platinwm o dan bwysedd 101,325 newton y medr sgwâr.
Môl (uned: mol), yw uned mesur ‘nifer o sylwedd’. Mae 12 gram o carbon-12 yn cynnwys un môl, neu 6.02 x 1023 atom, sy’n gyfystyr â chysonyn Avogadro.