Gwyddoniaeth

Sylwais fod rhai ymwelwyr wedi cyrraedd y wefan hon drwy chwilio am “sbectrwm electromagneteg”, felly dyma rhywbeth i’ch cynorthwyo:

Ymbelydredd:

  • Gama – yn deillio o gnewyllyn atom neu fan anghysbell yn y gofod; dirgryniadau niwtron a/neu proton. Fel arfer oherwydd dadfeiliad o gnewyllyn ansefydlog.
  • Pelydr-X – yn deillio o ddirgryniadau electron; gall ddod wrth i electronau atom ddirgrynu, un enghraifft yw cyflymu electron trwy gwahaniaeth potensial fawr tuag at darged metel trwy fel plwm sy’n rhoi bremsstrahlung, neu sbectrwm parhaol o belydrau-x - dyma sut mae tiwb Coolidge yn gweithio. Un enghraifft arall yw ymbelydredd syncrotron – wrth i electron symud mewn cylch ar gyflymder cyson, mae ei fudiad troellog yn golygu ei fod yn gyson gyflymu gan roi y math puraf o belydrau-x – sbectrwm cul o tonnau egni uchel. Wilhelm Röntgen ddarganfydodd y math hwn o ymbelydredd. Yr oedd ar y pryd yn math newydd aneglur o ymbelydredd a oedd y achosi niwlio ar ffilmiau ffotograffig – gelwir yn ôl y newidyn diwybod X a cheir ym mathemateg yn aml.
  • Uwch-fioled – daw llawer o ymbelydredd uwch-fioled o’r haul sy’n gallu llosgi’ch croen; mae sawl dull o greu’r math yma o ymbelydredd; yr un mwyaf cyffredin yw rhoi llif o drydan drwy lamp nwy mercwri; wrth i gerrynt llifo mae’n codi lefelau egni’r atomau i stad uwch, ac wrth iddynt ddigsyn mae pelydrau uwch-fioled yn cael eu hallyrru.
  • Gweledol – wrth gwrs mae’r haul yn rhoi digon o hwn; math hawdd o greu hwn yw twymo rhywbeth more boeth nes ei fod yn mynd o fod yn goch i wen-goch – gweler blackbody radiation . Mae llygaid dyn wedi ei addasu’n benodol i weld y math hwn o ymbelydredd. Gall gwenyn weld mwy o uwch-fioled na dyn, a gall nadroedd weld mwy o is-goch na ni.
  • Is-goch – Gwnaed pelydrau is-goch mwy neu lai yn yr un modd a phelydrau gweledol. Darganfuwyd y math hwn o ymbelydredd gan William Herschel, pan wnaeth ddefnyddio prism i wahanu golau haul i liwiau’r enfys, ond wedyn gan nodi fod rhywbeth anweledig y lliw coch ar y patrwm yn cynnwys llawer o wres – felly is-goch.
  • Microdon – Gall cael ei greu drwy gyflymu electronau drwy maes magnetig, sy’n amharu ar lif y gronynnau a chreu microdonnau. Mae popty microdon yn gweithio wrth i’r pelydrau achosi i ddŵr dirgyrnu gan dwymo. Mae’r gwres yma wedyn yn mynd ati i dwymo gweddill y bwyd etc.
  • Radio – yn cael ei greu drwy roi cerrynt drwy dargludydd. Os welwch trosglwyddydd teledu/radio, maent yn fawr. Mae hyn oherwydd cael yr osgled mwyaf posib, sef ble mae’r gwybodaeth yn bresennol. Y mwyaf ydi’r osgled, y gorau yw safon y darllediad.

Os ydych am i mi ymhelaethu ar hwn, gadewch sylw a wnai ymhelaethu ar yr uchod, rhoi rhai lluniau i fyny a gwneud mwy o ymdrech yn y geirio/gramadeg.

    • Categorīau

    • Archifau