Ffractalau

Dimensiynau Euclidaidd a thopolegol

Gelwir y nifer o gyfesurynnau sydd ei angen i enwi gwrthrych yn ddimensiwn Euclidaidd, DE. Er enghraifft, mae pwynt yn 0-Dimensiwn, llinell yn 1-Dimensiwn, plân yn 2-Dimensiwn a solid yn 3-Dimensiwn.

Ystyrir topoleg, siâp a ffurf gwrthrychau a sut caiff eu gwyrdroi o un siâp neu ffurf i’r llall heb golli eu nodweddion hanfodol. Bydd dau wrthrych yn hafal yn dopolegol os gall un cael ei wyrdroi i’r llall gyda thrawsffurfiad priodol fel homeomorffeg. Er enghraifft, mae llinell syth yn hafal yn dopolegol i gromlin lyfn.

Dimensiwn topolegol, DT, yw’r mesur o sut gall gwrthrych gael ei orchuddio gyda disgiau â radiws bach. Nid yw dimensiwn topolegol gwrthrych yn newid mewn achos o’i drawsffurfiad. Pan fo gwrthrych yn cael ei orchuddio â disgiau neu sfferau, rhaid iddynt groesdorri o leiaf DT + 1.

Enghreifftiau

Pwynt: DE = 0 a DT = 0.
Pwyntiau unllin: DE = 1 a DT = 0.
Pwyntiau ar blân: DE = 2 a DT = 0.
Segment llinell: DE = 1 a DT = 1.
Cromlin llyfn ar blân: DE = 2 a DT = 1.

Dimensiynau ffractal

Hunan-debygrwydd a graddio

Gelwir dau wrthrych yn hunan-debyg pan fo’n bosib trawsffurfio eu dimensiynau llinol gyda lluosiad graddfa syml.

Rhoi Sylw

Ni chaiff eich cyfeiriad ebost byth mo'i gyhoeddi na'i rannu. Dynodwyd meysydd angenrheidiol gyda *

*
*

Gallwch ddefnyddio'r tagiau HTML canlynol: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>

  • Categorīau

  • Archifau