newydd sbon » Gwyddoniaeth

Chromoscope
Chromoscope yw gwefan sydd yn eich gadael i grwydro ein galaeth, y Llwybr Llaethog, trwy amrediad o donfeddi penodol. Os nad ydych yn deall y frawddeg gyntaf, golyga hyn ei bod yn bosib gweld lluniau pelydr-X, isgoch neu lliw arferol o’r galaeth ble bod y ddaear. Y peth diddorol a defnyddiol am hyn yw fod llygaid dyn wedi ei addasu i weld amrediad penodol o donfeddi golau – mae’r retina ar gefn y llygaid dim ond yn sensitif i rai donfeddi, a rhain yw’r tonfeddi yr ydym yn eu synhwyro fel lliwiau gwahanol. Nid ydym yn gallu gweld pelydrau radio na gama, er bod rhain yn athreiddio byd natur.

Gall y math o belydrau roi syniad o’r hyn sy’n eu hallyrru; daw pelydrau-X o sêr gryno, sêr niwtron a thyllau duon. Pelydrau gama o ffrwydriadau mwyaf grymus natur, ym mhellteroedd y bydysawd, ble mae uwchnofa’n creu twll du ac yn troi’n hypernofa.

Y rhan orau o’r gwefan? Mae ar gael yn y Gymraeg. Ymddangosa’n y Gymraeg os yw iaith eich porwr wedi ei osod i’r Gymraeg, neu fedrwch ddewis iaith ar y gwefan ei hun.

Contour USB, Bayer
I’r 2.5 miliwn o bobl yn y DU sy’n dioddef o glefyd siwgr, gall bywyd fod yn anodd pan fo angen rheolaeth lem dros ymborth, ymarfer corff a chymryd ffisig. Clefyd siwgr yw anallu’r corff i reoli lefelau siwgr y gwaed. Gall diffyg siwgr gwaed arwain at syrthni, anymwybodaeth a hyd yn oed marwolaeth, tra bydd gormod o siwgr gwaed arwain at ddifrod i organau.

Y dull hawsaf i nifer o bobol y DU ar wahân i reoli ymborth yn llym, yw mesur lefelau siwgr gyda diferyn o waed. Ers tipyn mae teclynnau ar gael i fesur y lefelau a hyn yn unig. Dyfais newydd yw’r Contour USB gan Bayer. Datblygiad yw hwn o’r hyn sydd ar gael yn barod sydd yn cynnig cymaint mwy o reolaeth ynghyd a meddalwedd cyfrifiadur. Yr ychwanegiad pwysig gyda’r Contour yw’r gallu i gadw dyddiadur a chofnodi eich arferion o ddydd i ddydd, gyda diferyn bach o waed.

Gadawa hyn i bobl weld sut mae rhai bwydydd yn effeithio ar eu lefelau siwgr yn wahanol i eraill, a’u cynorthwyo i ddewis pa fwydydd sydd orau am eu gweithgarwch. Gellir fyny-lwytho’r wybodaeth i gyd a chadw dyddiadur cyflawn o’ch ymarferion.

Mewn cyd-destun Cymraeg does dim i’w weld yn rhwystro’r ddyfais yma rhag cael y rhyngwyneb yn yr iaith. Mae i’w weld ar gael mewn sawl iaith wahanol yn barod, sy’n rhoi cyfle i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol mynnu’r Gymraeg os ydynt am ddod i gytundeb a’u prynu.

BOINC
Safa’r llythrennau BOINC am Berkeley Open Infrastructure for Network Computing. Dull o gyfrifiaduro paralel ydyw sy’n addas ar gyfer datrys problemau enfawr. Mewn cyfrifiaduron gyda chaledwedd cyffredin bydd un casgliad o reolau yn cael eu rhedeg a’u gorffen cyn gall y set nesaf gychwyn. Mae hyn yn dderbyniol i’r rhan fwyaf ohonom sydd yn defnyddio ‘Office’ ac yn darllen ebost, ond i rai tasgau mae’n bell o fod yn addas.

I’r tasgau ble nad yw cyfrifiadur cyffredin yn ddigonol, mae uwch-gyfrifiaduron. Fel rheol bydd uwch-gyfrifiadur angen llawer o le (ystafell fawr neu adeilad cyfan), cyflenwad mawr o drydan a phobl gyda sgiliau cyfrifiaduro lefel academaidd. (Mae IBM yn rhagori yn y maes yma.) Y pethau sydd angen cymaint o bŵer cyfrifiaduro yw prosiectau gwyddonol. Prosiectau sy’n ceisio datrys penblethau mathemateg a gwyddorau bywyd, fel canfod rhifau cysefin enfawr neu wellhad i gancr. Caiff lawer o amser ei dreulio wrth redeg modelau sy’n ceisio rhoi atebion, felly mae system o redeg un set o brosesau cyn i’r nesaf gychwyn ddim digon da.

Nid yw mynediad at uwch-gyfrifiadur yn gyfleus nac yn rhad, felly mae moddion eraill ar gael. Un o rain yw’r dull o gyfrifiaduro paralel, ble caiff sawl proses ei redeg ar y cyd. Er bod uwch-gyfrifiaduron yn cyfrifiaduro’n baralel, mae oll yn digwydd ar un peiriant. Trwy ddefnyddio dull gwahanol, gall prosiect gwyddonol cael ei rannu’n sawl darn a’i ddosrannu ar hyd nifer o gyfrifiaduron.  Nod BOINC yw rhoi porth i brosiectau gwyddonol defnyddio caledwedd eich cyfrifiadur tra eu bod yn segur. Gall eich cyfrifiadur fod yn rhedeg meddalwedd i ganfod gwendid yn y firws HIV, tra eich bod yn gwneud paned. Cwbl sydd angen ei wneud yw lawr lwytho BOINC ac ‘atodi at brosiect‘, ble byddwch yn derbyn ffeiliau i’w prosesu a fydd wedyn yn cael eu gyrru’n ôl. Bydd hyn oll yn digwydd yn awtomatig.

Rhowch dro arni!