newydd sbon » Huw
Emosiynau Cymraeg
Un o’r pethau y daethais ar ei draws yn ddiweddar oedd Cylch Emosiwn Plutchik ar wefan Swiss Miss. Mae’n dangos yr amrywiad o emosioynau a sut maent wedi eu cysylltu. Er bod seicolegwyr gyda diffiniad penodol o beth a olygir gan bob un, a hefyd y mwyafrif o bobl i ryw raddau, pan fo’r angen i berson lleyg roi diffiniad mae’n anodd! Yr oedd hyd yn oed gwirio’r diffiniadau gyda Geiriadur yr Academi yn rhoi yr un geiriau am fwy nag un emosiwn. Er enghraifft, terror, fear ac apprehension, oll yn cael eu disgrifio gan “ofn”. Wedi dweud hynny, mae’r holl faes yn un diddorol dros ben, sef sut yr ydym yn teimlo.
Dwi wedi ceisio creu cylch fy hun gydag enwau Cymraeg yr emosiynau a enwid uchod. Bydd clic ar y llun yn rhoi y fersiwn mwyaf.
Mae croeso i chi gynnig newidiadau neu hyd yn oed ymestyn y model gan geisio ychwanegu emosiynau eraill (oes eraill?).
Placiau Glas
Wrth deithio, yn aml byddaf yn gweld placiau glas sy’n nodi digwyddiad neu ym mha dŷ y ganwyd rhywun enwog. Nid yw’r syniad yn un sy’n wreiddiol i Lundain yn unig, ond gellir dweud mai’r ddinas hon sydd mwyaf adnabyddus am ei ddefnydd, oherwydd y nifer. Yn Lloegr cychwynwyd y cynllun gan Cymdeithas Brenhinol Y Celfyddydau ond bellach Etifeddiaeth Lloegr sy’n gyfrifol dros eu cadw. Nid Etifeddiaeth Lloegr yn unig sy’n gosod placiau glas, ond ceir nifer o gymdeithasau sifig sy’n cynnal rhai eu hunain. Er enghraifft defnyddia Cyngor Manceinion Fwyaf 3 lliw i’r placiau: glas am berson; coch am ddigwyddiad; du am adeilad o bwys.
Medrwch chi unai dod ar draws lleoliadau placiau glas ar wefan Etifeddiaeth Lloegr, neu fynd i grwydro. Yng Nghymru dwi’n cofio gweld un ar dŷ Llwyn yr Eos ble y ganwyd Ivor Novello ar Heol y Bontfaen, a un neu ddau plastig gwael arall o gwmpas Caerdydd ond dim â chynllun cyson. Nid yn unig mae pobl yn amwymwybodol o’u hetifeddiaeth a hanes lleol, ond dyma fethu ar cyfle da i hyrwyddo diwylliant Cymreig a Chymraeg a’r diwydiant twristiaeth. Tydi pobl ddim yn cael y cyfle i ddychmygu stryd eu magu gyda chewri bywyd. Dyma be sydd gan Stephen Fry i’w ddweud am y peth.
Tra’n teithio’r UDA yr haf yma, cymerais lun o’r plac isod yn Annapolis. Mae’n adrodd hanes yr adeilad. Petai rhywun yn gwneud rhywbeth tebyg ac yn y Gymraeg, gall ennyn diddordeb a rhoi’r iaith mewn sefyllfa mwy cyhoeddus i ymwelwyr.
Pwrpas y placiau glas yw gwneud hi’n hysbys i grwydrwyr be sydd wedi digwydd tu ôl i wal tŷ. Wedi dweud hyn os yn cynllunio trip da bydd nifer yn ymchwilio pethau fel hyn o flaen llaw. Tra’n gwneud brith-ymchil daethais o hyn i gais un dyn am ryddid gwybodaeth ynghylch placiau glas. Gofyniad y dyn oedd lleoliadau penodol y placiau glas yn Llundain ar wefan Etifeddiaeth Lloegr, ac unrhyw brosiectau mewn dinasoedd eraill fel Lerpwl. Y dyn yw Frankie Roberto ac mae’n cadw blog. Ei fwriad oedd ceisio cyflwyno gwybodaeth am blaciau glas trwy ffôn symudol. Mae ei gofnod manwl a thrafodaeth difyr ar ei flog. Crëwyd map Google gan un o’r sylwyr.
Y penderfyniad anodd yw placiau glas i gofio pwy? Yng Nghymru byse hi’n hawdd rhoi plac i bron iawn pob pregethwr adeg y diwygiad! Amodau Etifeddiaeth Llundain dros blaciau glas Llundain yw:
wedi marw ers 20 mlynedd neu 100 mlynedd ers genedigaeth;
bod yr adeilad yn parhau i sefyll;
os am goffa digwyddiad rhai iddo fod o bwys cenedlaethol.
Yn ogystal â hyn, ni chaiff mwy na dau blac glas ei godi. Hynny yw, gall un plac fod am fan genedigaeth ac un arall dros le digwyddiad yn cynnwys y person – dim mwy.
Tair Deddf Roboteg Isaac Asimov
Yn nofel gwyddonias Isaac Asimov, “I, Robot” mae dyfyniad o Llawlyfr Roboteg sy’n nodi’r Tair Deddf Roboteg, sef:
Ni chaiff robot anafu bod dynol neu, drwy ddiffyg gweithredu, gadael i fod dynol profi niwed.
Rhaid i robot ufuddhau gorchmynion gan fodau dynol, ac eithrio rhai sy’n groes i’r Ddeddf Gyntaf.
Rhaid i robot ddiogelu bodolaeth ei hun ar yr amod nad yw’r gwrthdaro â’r Deddfau Cyntaf ac Ail.
Clawr llyfr I, Robot.
Er fod pobl o hyd yn ceisio creu robotiaid mwy galluog ac ymwybodol, nid oes yr un yn agos at fod yn gymharol ag anifail. Pryd bynnag y daw y dydd y digwyddith hyn, ers y dechrau mae gosod ffiniau moesol a moesegol fel mae dyn yn ei weld wrth wraidd datblygiadau.
Mewn cydnabyddiaeth o waith Asimov, mae gwefan gerddorol, cymdeithasol, last.fmyn talu teyrnged mewn ffordd gwahanol. Soniais mewn cofnodiad cynt am we-ymlusgwyr. Bydd peiriant chwilio fel Google yn crwydro’r we yn edrych am gynnwys a dolenni. Trwy gytundeb gwirfoddorol, gall gwefan dweud wrth we-ymlusgwr i beidio cofnodi rhai tudlaennau gyda ffeil “robots.txt”. Isod mae cynnwys ffeil “robots.txt”.
User-Agent: *
Disallow: /music?
Disallow: /widgets/radio?
Disallow: /show_ads.php
Disallow: /affiliate/
Disallow: /affiliate_redirect.php
Disallow: /affiliate_sendto.php
Disallow: /affiliatelink.php
Disallow: /campaignlink.php
Disallow: /delivery.php
Disallow: /music/+noredirect/
Disallow: /harming/humans
Disallow: /ignoring/human/orders
Disallow: /harm/to/self
Allow: /
Mae’r ffeil yn dweud wrth Google i beidio cofnodi unrhyw gyfeiriadau sy’n dilyn Disallow: Os parhewch i ddarllen fe welwch chi y Tair Deddf Roboteg.
Asiantaeth Gofod Cymru
Eleni, Mawrth 23 lansiwyd UK Space Agency i ailosod Canolfan Gofod Cenedlaethol Prydain. Bosib eich bod yn ceisio cofio pryd oedd y tro olaf i chi weld roced yn cael ei yrru o’r DU i’r gofod? Fel rheol bydd gwyddonwyr seryddol y DU yn adeiladu neu gyfrannu at loerennau sydd yn mynd tu fewn i’r rocedi. Chwaraeodd Prifysgol Caerdydd rhan allweddol yn adeiladu lloeren Herschel, sef y telesgop gofodol mwyaf hyd heddiw. Wedi dweud hyn, llawer o ddim mae’r asiantaeth yn ei wneud – ewch chi ddim yn bell ym myd gwyddoniaeth gyda £60 miliwn.
I’r rhai sydd â diddordeb yr oedd y rhan fwyaf o’r trafod ynghylch yr asiantaeth newydd, yn ymwneud â’r logo. Sylw nifer oedd ei fod yn edrych fel logo Dad’s Army, a hyn yng nghyd-destun toriadau enfawr i gyllid ymchwil gwyddoniaeth y wlad; cyllid sy’n creu cymaint o fanteision a chyfoeth mwy yn y pendraw. Felly does neb yn disgwyl llawer gan yr asiantaeth. Gallwch weld y logo chwerthinllyd isod:
Wrth gwrs, peidiwch â disgwyl gair o Gymraeg yn agos at logo Prydeinig, Tydi o ddim yn ddigon cryno na thaclus…
Gan nodi ynghynt fydd yr asiantaeth Brydeinig yn gwneud fawr o ddim a heb gyllid i fod yn prynu rocedi ac offer drud arall, pam na all asiantaeth gofod i Gymru gael ei sefydlu? Byse fo’n syniad digon cŵl – corff breuddwydiol â gwreiddiau mewn ffuglen wyddonol o’r diwrnod pan fyddwn yn gwibdeithio o un seren i’r llall. Byswn i wedi dychmygu logo o ddraig yn pwyntio am ei fyny, a’i thafod yn creu ryw do, yn debyg i’r logo uchod. Os gall rhywun creu logo digon taclus, mi drïai mynd ati a chael sticeri wedi eu gwneud. Yn wahanol i’r logo uchod, bydd gair o Gymraeg yn agos at y logo hon.
Gwe-ymlusgwr i’r Gymraeg
Gwe-ymlusgwr yw beth mae peiriant chwilio yn ei ddefnyddio i ganfod gwefannau a’u rhestru. Pan fyddwch yn chwilio’r we gan ddefnyddio Google, Bing, Yahoo neu unrhyw wasanaeth arall, yr ydych yn chwilio cronfa-ddata’r gwefan. Nid yw Google na neb arall yn chwilio holl gynnwys y we mewn chwinciad, gan fod hi’n amhosib, a chynnwys yn gyson cael ei greu, diweddaru neu ddiflannu.
Excite: gwe-ymlusgwr o’r gorffennol.
Dyma yw natur y rhyngrwyd. I’r mwyafrif o bobl, mae’r rhyngrwyd a’r we’r un beth. Yn syml, y rhyngrwyd yw’r isadeiledd a’r we yw un gwasanaeth o nifer sydd yn ei defnyddio. Yr un fath â ffyrdd a phontydd yw’r isadeiledd, a bws rhif 12 yw’r gwasanaeth sy’n cyfateb â’r we. Gall gwasanaethau eraill redeg fel ceir, cerddwyr a beicwyr sy’n gyffelyb ag ebost, FTP a P2P. Caiff y rhyngrwyd ei greu pan fo cyfrifiadur yn cysylltu â nifer eraill o gyfrifiaduron. Rhywbeth a ddaw i fodolaeth oherwydd y lluosog mwy neu lai. Ni all y rhyngrwyd cael ei ddileu neu newid fel mae’r cyfryngau yn ei ohebu pan fo cynnwys anwaraidd yn ymddangos; y dewis yw cymryd rhan neu beidio.
Pan fo cynnwys Cymraeg yn dod yn rhan o’r we ac o reidrwydd y rhyngrwyd sut ydym ni’n ei ganfod? Gallwn ddibynnu ar y BBC i ddefnyddio teledi, radio a’r wasg i’n hysbysebu am eu gwefannau, neu ffrind i ddweud wrthym am wefan fel Facebook. Fel yng nghymdeithas y cigfyd, mae ‘cylchoedd’ o bobl yn bodoli ar y we hefyd, wedi eu grwpio yn ôl diddordeb, iaith, neu eu cylch o’r cigfyd. Ond sut i ddod â’r cylchoedd yma ynghyd, a gallu chwilio’r wybodaeth gyhoeddus wedi ei drefnu yn ôl iaith yn gyntaf, ac yn ail yn ôl diddordeb?
Meddyliais am sut i greu gwe-ymlusgwr i gasglu gwybodaeth am fodolaeth gwefannau Cymraeg. Ar hyn o bryd mae Google yn ceisio casglu gwybodaeth am leoliad pob gwefan sydd bron iawn ar gael. I.e. cofnodi’r lleoliad ble mae cyfrifiadur wedi dod yn rhan o’r rhyngrwyd – hwn yw’r hyper-ddolen.
Y ffordd mae’r gwe-ymlusgwr yn gweithio yw cychwyn gydag un gwefan, ei gyrchu ac os yw’n canfod hyper-ddolenni eraill ar y gwefan, mae’n mynd ati i gyrchu nhw wedyn. Felly os mae gwefan Cymraeg gyda dolenni i wefannau Cymraeg eraill, bydd y gwe-ymlusgwr yn cofnodi’r rhain hefyd. Y broblem yw bod y gwefannau eraill yma’n debygol o gynnwys dolenni yn ôl at y gwefan gwreiddiol gan roi cylch caeëdig. Dyma un cylch, ond nid yw’n cysylltu â’r cylchoedd eraill.
Dull arall o gofnodi lleoliad gwefannau Cymraeg yw i’r gwe-ymlusgwr edrych am rywbeth penodol. Gyda llawer o waith gall raglen cael ei greu i geisio darllen ac adnabod testun fel Cymraeg, ond nid yw Google wedi llwyddo i wneud hyn eto gyda’u holl adnoddau. Dull haws yw defnyddio tagiau i ddynodi os yw gwefan cyfan neu ran ohoni’n cynnwys testun Cymraeg. Yn ôl canllawiau W3C, sef y corff sy’n arolygu’r cod sy’n rheoli ymddangosiad y we, i ddynodi iaith tudalen gwe gyfan dyma sydd ei angen:
neu
Mae un tag i iaith HTML a’r llall i XHTML. I’r mwyafrif o wefannau HTML yw’r cod. Ond sut i’w hadnabod? Wel mae’n ddigon hawdd gwneud yn ôl ymddangosiad. Edrychwch ar yr uchod ac ychwanegwch lang=”cy”. Trwy wneud hyn mae’n diffinio’r tudalen gwe gydag iaith ‘Cymraeg’. Gwefan sy’n ymhelaethu mwy am y tagiau yw Computing with Accents, Symbols & Foreign Scripts.
Sydd yn labelu unrhyw iaith o fewn y tagiau fel Cymraeg. Gall ieithoedd y paragraffau amrywio nifer o ieithoedd ar yr un tudalen. Prif fantais hyn yw galluogi porwyr gwe i’r rhai sydd â diffyg golwg gael meddalwedd sy’n darllen y testun. Yn dibynnu ar yr iaith, mae’r porwr yn darllen yr iaith yn wahanol. O safbwynt gwe-ymlusgwr, mae’r tag yn cyhoeddi fod testun Cymraeg yn bresennol a dylai ei leoliad gael ei gofnodi!
Ar wahân i greu meddalwedd gwe-ymlusgo fy hun, mae pecynnau cod agored eisoes ar gael. Dau benodol dwi wedi bod yn chware efo yw ASPseek a Grub. Mae’r statws cod agored yn rhoi cyfle i olygu’r pecynnau i ddim ond chwilio am dagiau lang=”cy”, a’u cofnodi mewn un lle canolog. Os ydwyf yn llwyddo gall fod yn ddefnyddiol iawn, ond mae angen cydweithrediad gan eraill. Boed gwe-ymlusgwyr yn benodol i’r Gymraeg yn bodoli neu beidio mae dal yn syniad da cychwyn defnyddio lang=”cy” petai rywun fel Google yn dewis gwneud yn y dyfodol.
Rhwydweithiau Cymhleth ac OpenStreetMap
Un nodwedd gyffrous o drefolaeth yw presenoldeb pobl. Boed yn bobl chi’n eu hadnabod neu beidio, rhaid rhyngweithio gyda hwy unai drwy gamu heibio neu wenu a sgwrsio. Er bod hyn yn nodwedd sy’n gallu rhoi mwynhad, mae diffygion ynddo. Mewn dinasoedd sydd â phoblogaethau a dwyseddau uchel, mae’r nifer fawr o bobl angen dull o symud o un lle i’r llall. Gan fod adeiladau a thai yn rhan annatod o drefolaeth, rhai symud o amgylch y rhwystrau hyn.
Ar wahân i gerdded neu feicio, ateb cynhwysfawr i symud pobl o gwmpas dinas yw trafnidiaeth gyhoeddus. Y dull cyflymaf hyd ddyddiau’r Chwyldro Diwydiannol oedd y ceffyl. Anfantais hyn oedd terfyn o 1 i 2 o bobl, neu grŵp bach mewn trol. Adeiladwyd camlesi yn nyddiau cynnar y Chwyldro, ond roedd hyn hefyd gyda chyfyngiad ar faint o bobl yr oeddent yn gallu cludo, a’u prif bwrpas oedd cludo glo a mwynau eraill. Yna daeth y rheilffyrdd gyda’u pŵer.
Methodd Llundain a thyfu heibio maint penodol cyn dyfodiad y rheilffyrdd. Yr oedd poblogaeth Llundain a’i maestrefi yn dibynnu ar ganolau San Steffan a Llundain ac Afon Tafwys. Daeth y rheilffyrdd gan ganiatáu i bobl a nwyddau symud ynghynt gan arwain at ymestyniad a phellhad o’r maestrefi. Daeth defnyddio’r rheilffyrdd yn achos pleser ac angen, gyda system danddaearol yn dilyn. Digwyddodd yr un beth ym Mharis gyda’r Metro, ond nid i’r un graddau. Heddiw mae’r systemau rheilffyrdd tanddaearol yn asgwrn cefn i’r dinasoedd maent yn eu gwasanaethu.
Hydref diwethaf cyhoeddwyd papur ar arXiv, sef gwefan sy’n casglu papurau academaidd ar bynciau gwyddonol, ar effeithlonrwydd systemau tanddaearol mewn dinasoedd mawrion. Y ddwy ddinas o dan sylw oedd Llundain a Pharis. Gallwch weld y papur o dan y teitl On the Efficiency of Underground Systems in Large Cities (PDF). Yn y papur, defnyddiwyd entropi amrywiaeth neu wybodaeth sy’n rhan o faes damcaniaeth gwybodaeth.
Os yw’r geiriau mawrion yma’n rhoi braw, entropi yw mesur trefn, neu pa mor daclus yw system. Os oes gennych fwced o ddŵr glas a bwced o ddŵr melyn, gallwn ddweud fod entropi’r system ar ei isaf, gan fod y dŵr glas mewn un lle a’r dŵr melyn mewn lle arall. Os gwnawn ni dywallt y ddau fwced efo’i gilydd fewn i un bwced mawr, mae entropi’r system yn codi gan fod mwy o anrhefn – gronynnau’r dyfroedd wedi cymysgu â’i gilydd. Mae’r dŵr bellach yn wyrdd (glas a melyn yn rhoi gwyrdd) ac mae hi bron yn amhosib y byddwn yn gweld y dyfroedd glas a melyn eto ar ben eu hunain.
Felly o wybod bod entropi’n golygu math o anrhefn, yr ydym yn mesur trefn amrywiaeth – e.g. dynion yn byw ar un stryd a gwragedd ar stryd arall etc. yr amrywiaeth rhwng dynion a gwragedd, a’r drefn yn ymwneud ag os yw pob dyn mewn un lle a phob gwraig mewn lle arall. Gall gwybodaeth ailosod amrywiaeth os oes eisiau gan ein bod yn defnyddio gwybodaeth a gasglwyd i gategorïo pobl a diffinio amrywiaeth.
Mi wnaeth y papur astudio entropi amrywiaeth pobloedd Llundain a Pharis gyda system danddaearol neu beidio. Defnyddiwyd gwybodaeth ofodol a oedd eisoes wedi ei gasglu a’i threfnu ar OpenStreetMap i.e. lleoliadau gwrthrychau a ffyrdd, a’r dulliau mwyaf posib i berson symud o amgylch y nodweddion hyn. I ddadansoddi gwybodaeth mapiau OSM, defnyddiwyd y meddalwedd Merkaartor sy’n nodi nodes, neu ble mae ffyrdd yn cyfarfod ei gilydd. Defnyddiwyd yr amod o ddim ond derbyn node ble’r oedd tair stryd neu fwy yn dod at ei gilydd i anwybyddu ffyrdd heb allanfa/unffordd etc. Yn syml, edrych am gyffyrdd pwysicaf y ddinas, mesur eu cysylltiadau i rannau eraill o’r ddinas, agosrwydd y nodes at ei gilydd, a hygyrchedd cyffredinol y ddinas. Cael pobl i grwydro’r strydoedd a mesur eu trylediad trwy’r ddinas.
Gwelwyd fod hygyrchedd Llundain a Pharis yn gwella’n sylweddol gyda system danddaearol sy’n dangos eu bod yn gwneud eu swydd, ond hebddynt mae gwahaniaeth mawr. Gwelwyd fod hygyrchedd un ardal o’r llall ym Mharis yn fwy cytbwys nac yn Llundain. Atebion posib dros hyn yw mwy o bontydd dros Seine, neu ddiffyg rhwystrau fel parciau Regent a Hyde. Beth bynnag gall gael ei ddehongli o’r wybodaeth mae’n ddiddorol gweld a hefyd yn rhoi dull o drefnu trafnidiaeth gyhoeddus a chynlluniau codi tai mwy call yn y dyfodol. Tybed sut fyddai rhywle fel Caerdydd yn edrych?
Digido’r Tafodieithoedd a Pethau Bychain
Un agwedd o iaith, ac yn fwy perthnasol i mi, yr iaith Gymraeg yw ei thafodieithoedd. Yn aml yr ydym yn clywed am Waldo neu T.H. Parry-Williams yn sôn am eu gwladgarwch a hynny fel ryw fath o dafluniad o’u milltiroedd sgwâr i hyd a lle Cymru. I.e. Golygfeydd a phobl Preseli neu Eryri sy’n ymestyn yn bell heibio’r gorwel. Y nodweddion sy’n rhan o’r bobl yw eu ffyrdd o fyw, sut maent yn cyfathrebu â’i gilydd a hynny mewn modd penodol – cymunedau amaethyddol yn defnyddio geiriau unigryw i ddisgrifio bywyd fferm; cymunedau diwydiannol yn defnyddio geiriau unigryw i ddisgrifio gweithfeydd haearn, glo neu fywyd tref.
Agwedd arall o dafodiaith yw ei fod, fel gwyddoniaeth a byd natur, yn rhywbeth sy’n diddori. Wrth i’r byd newid, y Gymraeg yn cilio mewn rhai ardaloedd ac yn tyfu mewn ardaloedd eraill mae’r tafodieithoedd yr ydym yn eu hadnabod yn wynebu newid. I’r rhai sy’n gweld newid eisoes, gall fod yn dorcalonnus wrth i’r dafodiaith ddiflannu’n llwyr neu gael ei llyncu gan dafodiaith gyfagos.
Un ffordd o gofio rhywbeth haniaethol fel tafodiaith yw ei gofnodi, unai ar bapur neu fel sain. Un ymdrech i wneud hyn oedd gan Peter Wyn Thomas a Beth Thomas. Dysgais am eu gwaith Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg: Cyflwyno’r Tafodieithoedd gan Carl Morris draw ar Quixotic Quisling, ble soniodd am greu mapiau o ddefnydd geiriau e.g. pa air yr ydych yn ei ddefnyddio am sweet, boed yn losin, fferen, da-da be bynnag a nodi ar fap ble’r ydych yn byw. Bydd hyn yn galluogi i fap cael ei greu sy’n dangos ardaloedd gyda defnydd geiriau gwahanol.
Fel rhan o’r gwaith, cafodd pobl eu cyfweld a’r ffordd yr oeddent yn siarad, geirfa ac acen, eu recordio ar dâp a’i gofnodi fel testun. Bellach ar wefan Casgliad y Werin, sydd i’w weld gyda dim ond cynnwys Saesneg ar hyn o bryd, mae recordiadau o’r bobl yn siarad yn y gwaith ar gael i’w glywed fan hyn. Byswn i’n deud fy mod yn defnyddio geirfa ac acen sy’n gymysgiad o dafodieithoedd Rhosllannerchrugog, Llansannan a Ffynnongroyw – Cymraeg mae nifer yn ei ddisgrifio fel un Hen Sir y Fflint.
Ar ôl darllen am y llyfr Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg: Cyflwyno’r Tafodieithoedd ar flog Carl, es ati i edrych am y llyfr ym Mhrifysgol Bangor. Mae sawl copi i’w gael yn y Brif Lyfrgell a llyfrgell Safle Normal. Yr oedd hi’n ddiddorol gweld y gwahaniaethau yn sut mae pobl yn siarad yn fy milltir sgwâr i, sef gogledd-ddwyrain Cymru, ond braidd yn siomedig nad oedd mwy o bobl wedi eu cyfweld o drefi eraill. E.e. geiriau crochenwyr a ddaeth i gyffiniau’r Wyddgrug ym Mwcle o Swydd Stafford wedi eu derbyn yn y Gymraeg, fel snapyn am egwyl bwyd.
Yr oedd fy nain, ar ochr fy nhad, yn dwad o Ben-y-cae ger Wrecsam – wedi ei magu mewn ffordd unigryw Gymreig. Adeg Nadolig, buasent yn crogi celyn o nenfwd y tŷ – dim sôn o goeden Nadolig – a’i addurno. Yr oedd disgwyl y post a diwrnod o waith ar yr un diwrnod – dim gwyliau. Dysgais heno fod fy nhad gyda hen dâp o fy hen-daid yn darllen llyfr yr ysgrifennodd i ddathlu canmlwyddiant ei gapel, degawdau yn ôl. Yr ydwyf wedi fy nghynhyrfu bod cofnodiad o dafodiaith a geirfa sydd bosib iawn wedi marw – does neb yn siarad felly heddiw. Fel rhan o ddiwrnod Pethau Bychain, ble mae unigolion yn bwriadu cyfrannu cynnwys Cymraeg i’r we, hoffaf enwebu fy hun i geisio digido’r hen dâp a’i roi arlein fel cofnod o hanes diwylliannol Cymreig.
Termau Gwyddoniaeth
I’r mwyafrif ohonom, bydd y wyddoniaeth yr ydym yn ei glywed yn ddyddiol yn dod trwy gyfrwng Saesneg Americanaidd. Ers milenia mae gwybodaeth gwyddonol dynol-ryw wedi deillio o wahanol ddiwylliannau ac ieithoedd. Ieithoedd amlwg yw’r Roeg a Lladin; eraill yw Arabeg ac Almaeneg.
Ym mha bynnag iaith y gwnaed neu y cyflwynir y darganfyddiad gwyddonol, mae enw unigryw a chynhenid yn yr un iaith. Enghreifftiau o hyn yw darganfyddiad yr elfen Twngsten sydd â’r symbol W o’i enw Almaeneg Wolfram, neu’r enw Betalgeuse am seren sy’n golygu “yr un canol” yn Arabeg.
Am gyfnod cafodd darganfyddiadau gwyddonol eu cyflwyno trwy Ladin, fel gwaith Isaac Newton ar galcwlws; bellach Saesneg yw’r iaith ddetholedig, yn enwedig yn y byd gorllewinol. Gwledydd sy’n gwneud fel y mynnant yw’r Almaen a Siapan, a rwan yn fwyfwy Tsieina. Rywsut mae pobloedd y byd wedi eu cyflyru i dderbyn mai Saesneg yw unig gyfrwng gwyddoniaeth, er bod hyn yn bell o fod yn wir. Ar wahân i’r geiriau unigryw sy’n deillio o’r iaith mae gwaith yn cael ei gyflwyno ynddi, ble mae’r Gymraeg yn dibynnu ar wyddonwyr i gyflwyno gwaith gwreiddiol yn yr iaith, mae wrth gwrs trosiadau.
Oherwydd bod nifer yn derbyn Saesneg fel cyfrwng iaith gwyddoniaeth, anodd yw dod ar draws geiriau gwyddonol Cymraeg yn niwylliant poblogaidd, gydag unrhyw gof o ddyddiau gwersi gwyddoniaeth TGAU i nifer. O safon uwch ymlaen, Saesneg bydd cyfrwng dysgu i’r mwyafrif.
Mewn dull o geisio cynorthwyo pobol i ddod yn gyfarwydd â geiriau gwyddonol Cymraeg, a hyd yn oed ychwanegu at ein gwybodyddion, yr ydwyf wedi creu ryw eiriadur arlein. Mae’n bell o fod yn gyflawn neu yn syniad newydd, ond yr hyn sydd yn wahanol amdano yw’r gallu i chwilio’n gyflym a hynny gyda rhan o allweddair. Felly os gyflenwch ‘wyd’ cewch ganlyniadau sy’n cynnwys arwyddnod a dilysrwydd. Bydd y dudalen yn chwilio trwy gronfa ddata wedi tair llythyren. Rhowch dro arni, ac awgrymwch unrhyw welliannau yn sylwadau’r cofnod hwn.
Termau Gwyddoniaeth
OpenStreetMap, Merkaartor a Chartograffiaeth
Cartograffiaeth yw’r grefft o greu darluniau cyffredinol neu gymleth sy’n cyfleu nodweddion ffisegol fel ffyrdd neu fynyddoedd, neu nodweddion mwy haniaethol fel ffiniau gweinyddol. Mapiau – sydd yn deillio o wybodaeth gofodol. Er fod y syniad yn digon syml ac yn beth sydd wedi ei gyflwyno i ni ers yn blant, gall fod yn andros o ddefnyddiol a phwerus.
Gall cartograffiaeth gael ei dderbyn fel celf neu wyddor. Celf yn y modd mae gwybodaeth yn cael ei gyflwyno i’r defnyddiwr, a hwnw mewn dull priodol, lliwgar a hwylus; gwyddonol gan fod angen cynllun o sut i greu fap o ystadegau neu greu topoleg o nodweddion ffisegol fel map tiwb Llundain. Gweler isod.
Nid oes raid i gartograffiaeth fod yn llym gysylltedig â daearyddiaeth. Gall cael ei ddefnyddio mewn meysydd cymdeithasegol neu hyd yn oed llenyddiaeth. Gweler y llun isod ar sut mae cymeriadau gweithiau William Shakespeare yn croesi ei gilydd. Wedi dweud hyn, mae cartograffiaeth yn dibynnu ar wybodaeth gofodol sy’n rhoi mapiau i ni. Tydi map ddim pob tro yn gysylltiedig â chartograffiaeth. Cerwch i wefan Information is Beautiful am sawl enghraifft sydd ddim yn defnyddio unrhyw wybodaeth gofodol o gwbl.
Mae bywydau nifer wedi cael eu newid gyda dyfodiad Google Maps, a chyn hynny gwefannau fel StreetMap a MultiMap. Ym mhob enghraifft maent wedi bod yn defnyddio gwybodaeth caeëdig, unai wedi ei gasglu gan nhw eu hunain neu’n cael ei ddefnyddio drwy drwydded gan yr Arolwg Ordnans neu gwmni arall. Gwefan sydd yn cynnig gwasanaeth mapio a hynny’n god agored yw OpenStreetMap. Disgrifir fel Wikipedia’n cwrdd â mapiau – yn rhydd i bawb olygu a chyfrannu cymaint a phosib.
Yn y rhifyn cyfredol o’r cylchgrawn Wired (Medi 2010) mae sôn am OpenStreetMap a sut i gyfleu gwybodaeth yn weledigaethol. Cafodd defnydd mawr o OpenStreetMap ei wneud adeg y trychineb yn Haiti. Wrth i gyrff cymorth rhyngwladol geisio teithio trwy Haiti o’r Weriniaeth Dominicaidd, yr nifer yn mynd ar goll. Oherwydd hanes Haiti, does ddim llawer o fapio wedi digwydd neu ddim byd digon dibynnol a chyfredol. Mi wnaeth y cymhorthwyr cyntaf i Haiti gwneud yr ymdrech i ddefnyddio dyfais GPS i fapio prif lwybrau’r wlad. Cafodd hyn ei gofnodi ar OpenStreetMap a oedd wedyn wedi ei olygu arlein i symleiddio cromliniau fewn i linellau mwy syth; nid i gynrychioli’n union ond i roi syniad o’r tirwedd – ble mae afonydd, coedwigoedd, pontydd.
Gan fod OpenStreetMap yn god agored mae modd ychwanegu at y peth, nid yn unig gyda gwybodaeth atodol, ond y system ei hun. Mae cynllunio sylweddol y tu ôl i’r system sy’n caniatau i bobol nodi pob math o nodweddion gan gynnwys blychau post, coed unigol, safle bws neu dafarn lleol. Gall gwybodaeth helaeth gael ei ychwanegu fel enwau Cymraeg neu Saesneg, enw tafarn, haen ffordd os oes mwy nag un ffordd yn croesi ei gilydd.
Gyda OpenStreetMap yn god agored sy’n cynnwys API (rhyngwyneb rhaglennu rhaglen?) gall meddalwedd gael ei ddatblygu i ychwanegu, golygu neu echdynnu gwybodaeth. Un o rhain yw Merkaator (swnio’n debyg i Mercator yn tydi?), meddalwedd goygu cod agored. Yng Nghymru mae llefydd fel Caerdydd wedi ei fapio’n reit dda hyd yn hyn. Mae hwn wedi gael ei wneud yn haws gyda stadau o dai sydd a ffyrdd syth sy’n croesi megis matrics. Nid yw llefydd eraill wedi eu mapio cystal. Edrychwch ar rywle fel Bae Colwyn sydd a phoblogaeth reit uchel a sydd wedi ei ledaenu, nid yw’r hyn sydd wedi ei fapio fel sy’n bodoli go iawn. Yn hyn dwi’n ceisio’i ddweud yw fod angen i bobl Cymru fynd ati i fapio Cymru! Gall hyn cael ei wneud gyda theclynnau GPS neu feddalwedd ar iPhone, neu ffôn sy’n rhedeg Android. Pa bynnag ffôn neu ddyfais sydd gennych gallwch ddatblygu meddalwedd iddo. Un tasg sydd angen ei wneud yw cyfieithu Merkaartor i’r Gymraeg.
O safbwynt Cymraeg gall nodweddion dderbyn unrhyw enw, gyda thag enw Saesneg neu enw Cymraeg. Tagiau posib yw ‘name’, ‘name:cy’ a ‘name:en’. ‘name’ sy’n cael y blaenoriaeth o’r tri neu fwy. Pwy sydd i benderfynu pa enw sydd ‘fwyaf swyddogol’? Pwy sydd am benderfyny os na Caerffili neu Caerphilly sydd am ymddangos, neu fod afon yn cael ei enwi’n Afon Clwyd yn lle River Clwyd. Gall ‘name’ cael ei lenwi gyda River Clwyd tra fo’r tag ‘name:cy’ yn cael ei lenwi gyda Afon Clwyd. Unrhyw ffordd bydd map yn dangos River Clwyd, a thrwy pori ymhellach bydd Afon Clwyd yn ymddangos, er fod gan yr afon enw Cymraeg cynhenid. Byddai lle fel Abertawe yn gallu cael ei drin yn fwy cyfartal gan fod yr enw Saesneg Swansea ag ystyr hollol gwahanol, a fod blaenoriaeth dros un enw neu’r llall yn amhosib ei wneud heb fod ag agenda. Isod mae llun o Merkaartor a sut mae modd golygu a gweld gwybodaeth.
Chromoscope
Chromoscope yw gwefan sydd yn eich gadael i grwydro ein galaeth, y Llwybr Llaethog, trwy amrediad o donfeddi penodol. Os nad ydych yn deall y frawddeg gyntaf, golyga hyn ei bod yn bosib gweld lluniau pelydr-X, isgoch neu lliw arferol o’r galaeth ble bod y ddaear. Y peth diddorol a defnyddiol am hyn yw fod llygaid dyn wedi ei addasu i weld amrediad penodol o donfeddi golau – mae’r retina ar gefn y llygaid dim ond yn sensitif i rai donfeddi, a rhain yw’r tonfeddi yr ydym yn eu synhwyro fel lliwiau gwahanol. Nid ydym yn gallu gweld pelydrau radio na gama, er bod rhain yn athreiddio byd natur.
Gall y math o belydrau roi syniad o’r hyn sy’n eu hallyrru; daw pelydrau-X o sêr gryno, sêr niwtron a thyllau duon. Pelydrau gama o ffrwydriadau mwyaf grymus natur, ym mhellteroedd y bydysawd, ble mae uwchnofa’n creu twll du ac yn troi’n hypernofa.
Y rhan orau o’r gwefan? Mae ar gael yn y Gymraeg. Ymddangosa’n y Gymraeg os yw iaith eich porwr wedi ei osod i’r Gymraeg, neu fedrwch ddewis iaith ar y gwefan ei hun.