Category Archives: Uncategorized

Twristiaeth yn oes Brexit

Daeth papur academaidd Culture, identity and tourism representation: Marketing Cymru or Wales? (PDF, 200kb) gan Annette Pritchard a Nigel Morgan, i’m golwg wedi penderfyniad hurt Llywodraeth Cymru i adeiladu cylch haearn yn y Fflint. Yr oedd y cylch i gynrychioli Cylch cestyll Edward 1af yng ngogledd Cymru, fel rhan o ryw ddodrefnan i ddenu twristiaid. Wedi’r ymateb […]

Posted in Uncategorized | Leave a comment

Mapio defnyddwyr Strava

Yn aml y byddaf yn defnyddio app Strava ar fy ffôn symudol, sy’n fy ngalluogi i gofnodi, ble dwi’n rhedeg neu feicio, pa mor bell y byddaf yn mynd, a fy nghyflymder. Mae’n enghraifft arall o wasanaeth cyfrwng cymdeithasol, sy’n rhoi llwyfan i mi, a nifer o bobl eraill, rannu ein gweithgareddau, gan hefyd ychwanegu […]

Posted in Uncategorized | Leave a comment

Dadansoddi damweiniau A55

Yn ddyddiol mae papur newydd Daily Post efo erthygl ynghylch y brif ffordd A55. Bydd unrhyw drafferth ar y ffordd yn gyfuniad o waith ffordd, pobl hurt, ac, yn fy marn i, gorddefnydd o’r ffordd (twristiaid a pherchnogion tai haf yn gwneud teithiau hir bob penwythnos). Digwyddiad sy’n siŵr o arafu llif y traffig yw […]

Posted in Uncategorized | Leave a comment

Cymru × Monocle

Yn rhifyn pump o The Forecast gan gylchgrawn Monocle, mae Arolwg Cenedl am Gymru, sydd wedi derbyn nawdd gan Fwrdd Twristiaeth Cymru. Fel nad yw rhywbeth fel hyn yn cael ei fethu, dyma cipolwg o’i gynnwys. Mae’n werth ei weld, gan ei fod yn derbyn triniaeth ‘glan’ Monocle. Caiff Cymru ei ddisgrifio fel gwlad o […]

Posted in Uncategorized | Leave a comment

Cymry ar blât

Ddoe, es i am goffi i Scandi Kitchen yn ardal Fitzrovia o Lundain. Yr ydywf wedi bod yno o’r blaen, mwy nag unwaith, a hynny ynghylch y sylw a dena’r Smörgåsbordiau (dwi’n meddwl na’r didolnod a’r Angstrom sydd yn haeddu’r sylw). Y tro hyn sylwais ar nodwedd bach ar eu bwydlenni. Gweler y llun isod […]

Posted in Uncategorized | Leave a comment

Pleserau anhysbys R

  Iaith sgriptio sy’n cael ei ddefnyddio gan fathemategwyr ac ystadegwyr yw R. Mae’n becyn defnyddiol iawn i brototeipio modelau ystadegol, ac y mae ganddi gefnogaeth dda i ddelweddu gwybodaeth ofodol a chreu mapiau. Un math o fap posib yw choropleth, sy’n cael ei ddangos yn dda gan Siôn Gwilym yma (rhagolwg isod – does […]

Posted in Uncategorized | Leave a comment

Clytwaith gyda Textures.js

Un llyfrgell JavaScript poblogaidd yw D3.js (Data Driven Documents) sy’n gwneud hi’n haws dangos pob math o ddelweddau ar y we. Llyfrgell JavaScript delweddu cyflenwol newydd yw Textures.js. Mae’n gwneud hi’n haws ychwanegu gweadau i siapiau neu ffiniau. Yn fy achos i, dewisais ffiniau siroedd cyfredol Cymru. Os wnewch ddiweddaru’r dudalen o’r ddolen isod, mi […]

Posted in Uncategorized | Tagged , , , , | Leave a comment

Milltir sgwâr

Term a ddefnyddir yn aml i ddisgrifio cynefin rhywun yw ‘milltir sgwâr’. Yn ol Geoff Boeing, fe wnaeth Allan Jacobs greu mapiau milltir sgwâr o ddinasoedd gwahanol fel modd o gymharu eu gwrthrychedd (objectivity). Hynny yw, bydd yr un cymhariaeth yn cael ei wneud rhwng un lle a’r llall gan bwy bynnag fo’r arsyliwr. Mae’r […]

Posted in Uncategorized | Tagged , , | Leave a comment

Lleisiau’r byd

Gwefan diddorol sydd wedi ymddangos yn ddiweddar yw Radio Garden. Mae’n bosib pori’r byd trwy fap rhyngweithiol a gwrando ar unrhyw orsaf sydd hefyd â darllediad arlein. Diddorol yw gwrando ar orsafoedd yn Tromsø Norwy, Pretoria De Affrica, a Lamarque yr Ariannin.

Posted in Uncategorized | Leave a comment

Chwyldro data mawr

Term sy’n cael ei ddefnyddio’n fwyfwy’r dyddiau hyn yw ‘data mawr’, a’r chwyldro honedig sy’n ei gwmpasu. Os yw data mawr mor arwyddocaol fel bod chwyldro yn digwydd, beth yn union ydyw? Un diffiniad sydd wedi cael ei rannu yw, ystyriwch unrhyw ddata sydd gennych yn y swyddfa neu o fewn eich cwmni, ac wedyn […]

Posted in Uncategorized | Leave a comment