Author Archives: Huw

Peidiwch â chyffwrdd…

“Peidiwch â chyffwrdd â’r peiriannau, now sling your hooks or I’ll break your face.” Dyma beth ddywedodd Nessa wrth ddau lanc yn y rhaglen Gavin & Stacey. Heddiw ac yn fwyfwy yn y dyfodol, ni fydd angen cyffwrdd. Mae Google bellach eisiau ein helpu. Ers blwyddyn neu ddau mae’r ddyfais LeapMotion ar gael (tua £40-50), […]

Posted in Uncategorized | Leave a comment

Electroneg argraffiedig

Deuddydd yn ôl ar wefan Dezeen, ymddangosodd erthygl am glustffonau wedi eu creu’n rhannol gydag electroneg argraffiedig (uchod). Un maes sydd wedi hoelio sylw nifer yw potensial argraffu rholyn i rolyn (roll-to-roll, R2R) gyda chydrannau electronig. Pwnc ymchwil fy noethuriaeth oedd defnyddio deunyddiau arbennig i wneud celloedd solar, a all wedyn cael eu gwneud gyda […]

Posted in Uncategorized | Leave a comment

Canmlwyddiant Capel y Groes, Pen-y-cae

Ryw peder mlynedd yn ôl addewais, fel rhan o ddiwrnod Pethau Bychain, i ddigido fy hen-daid yn adrodd hanes ei gapel lleol oddi ar tâp rîl-i-rîl. Gyda chymorth mawr a hael Dan Griffiths o Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, llwyddais. Hyd yn oed os nad yw’r pwnc yn […]

Posted in Uncategorized | 1 Response

Wisgi Dylan Thomas

Gan ofni neidio ar bandwagon dathlun canmlwyddiant ers genedigaeth Dylan Thomas, oeddwn i’n meddwl bod hi’n reit cwl gweld bod Distyllfa Penderyn wedi creu wisgi newydd i ddathlu. Tydw i ddim yn yfwr wisgi, ond mae’n frag sengl yn ôl gwefan Penderyn. Y peth sy’n f’atynu yw dyluniad y bocs a’r botel. Sylweddolais arno ar […]

Posted in Uncategorized | 1 Response

Jamie Jones

Yn ddiweddar mae Jamie Jones, a fagwyd yng Nghaernarfon, wedi bod yn cynnal noson Paradise yng nghlwb nos DC-10 yn Ibiza ar ddydd Iau. (Mae’n droellwr sy’n ymweld â digon o lefydd eraill hefyd.) Rhywsut mae wedi mynd ati i fod yn un o arweinydd genre deep house a blasau eraill, gyda cherddoriaeth â bas trwm, […]

Posted in Uncategorized | Leave a comment

Teyrnged Paris i’r mathemategwyr

Mathemateg yw’r pwnc mae llawer yn ei gasau, ac eto, cymaint yn ei fwynhau fel posau a phatrymau. Ble arall ond y dinas a gynlluniwyd gan Haussmann, sy’n talu teyrnged i fathemategwyr; ar y cyfan rhai Ffrengig, ond mae eraill. Dyma restr gan adran mathemateg Prifysgol Sant Andreas, sy’n nodi strydoedd wedi eu henwi ar […]

Posted in Uncategorized | Leave a comment

Cynhadledd Ryngwladol y Coleg Cymraeg 2014

Heddiw (3ydd Gorffennaf), yr ydwyf yn cyflwyno poster sy’n grynodeb (cryno iawn!) ar waith fy noethuriaeth. Yr ydwyf wedi bod wrthi’n ymchwilio celloedd heulol organig (paneli solar plastig), ac edrych ar sut maent yn torri a’r hyn i’w hytyried i’w gwella. Byddaf yn cyflwyno poster ar y gwaith yng Nghanolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd, […]

Posted in Uncategorized | 2 Responses

Towns in Britain, Jones the Planner

Un blog dwi wedi bod yn ei ddilyn ers amser yw un Jones the Planner, ble mae Adrian Jones sy’n gynllunydd trefol, a Chris Matthews sy’n hanesydd a dyluniwr graffeg, yn trafod y da a’r drwg o drefnu a datblygiad trefi dros Ewrop – Lloegr yn bennaf, ond maent wedi trin Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd. […]

Posted in Uncategorized | Leave a comment

Treftadaeth Diwylliannol Digidol

Ers sawl blwyddyn, mae Google wedi bod wrthi’n digido ac archifio cynnwys llyfrgelloedd ac orielau’r byd. Mae’n bosib iawn eich bod wedi canfod ryw ragolwg o lyfr ar Google Books, neu o leiaf tystiolaeth o fodolaeth cyhoeddiad. Gyda pharhâd gwaith Google, daeth i’m sylw bod ganddynt wefan newydd Cultural Institute, sydd wedi crynhoi rhai o’r […]

Posted in Uncategorized | Leave a comment

Treiddiad y Gymraeg ym myd addysg

Gellir dadlau y cychwynodd addysg Gymraeg fodern gyda chyhoeddiad Y Gymraeg mewn Addysg a Bywyd yn 1927, gan ‘Y Weinyddiaeth Addysg’. Nid oes copi rhydd arlein i’w ganfod, ond mae cofnod ar Google Books. Llwyddais i ffeindio ailgyhoeddiad o 1953  yn llyfrgell Safle Normal Prifysgol Bangor, gyda’r map hwn o’r nifer o blant sy’n derbyn […]

Posted in Uncategorized | 7 Responses