Author Archives: Huw

Cymru × Monocle

Yn rhifyn pump o The Forecast gan gylchgrawn Monocle, mae Arolwg Cenedl am Gymru, sydd wedi derbyn nawdd gan Fwrdd Twristiaeth Cymru. Fel nad yw rhywbeth fel hyn yn cael ei fethu, dyma cipolwg o’i gynnwys. Mae’n werth ei weld, gan ei fod yn derbyn triniaeth ‘glan’ Monocle. Caiff Cymru ei ddisgrifio fel gwlad o […]

Posted in Uncategorized | Leave a comment

Cymry ar blât

Ddoe, es i am goffi i Scandi Kitchen yn ardal Fitzrovia o Lundain. Yr ydywf wedi bod yno o’r blaen, mwy nag unwaith, a hynny ynghylch y sylw a dena’r Smörgåsbordiau (dwi’n meddwl na’r didolnod a’r Angstrom sydd yn haeddu’r sylw). Y tro hyn sylwais ar nodwedd bach ar eu bwydlenni. Gweler y llun isod […]

Posted in Uncategorized | Leave a comment

Pleserau anhysbys R

  Iaith sgriptio sy’n cael ei ddefnyddio gan fathemategwyr ac ystadegwyr yw R. Mae’n becyn defnyddiol iawn i brototeipio modelau ystadegol, ac y mae ganddi gefnogaeth dda i ddelweddu gwybodaeth ofodol a chreu mapiau. Un math o fap posib yw choropleth, sy’n cael ei ddangos yn dda gan Siôn Gwilym yma (rhagolwg isod – does […]

Posted in Uncategorized | Leave a comment

Clytwaith gyda Textures.js

Un llyfrgell JavaScript poblogaidd yw D3.js (Data Driven Documents) sy’n gwneud hi’n haws dangos pob math o ddelweddau ar y we. Llyfrgell JavaScript delweddu cyflenwol newydd yw Textures.js. Mae’n gwneud hi’n haws ychwanegu gweadau i siapiau neu ffiniau. Yn fy achos i, dewisais ffiniau siroedd cyfredol Cymru. Os wnewch ddiweddaru’r dudalen o’r ddolen isod, mi […]

Posted in Uncategorized | Tagged , , , , | Leave a comment

Milltir sgwâr

Term a ddefnyddir yn aml i ddisgrifio cynefin rhywun yw ‘milltir sgwâr’. Yn ol Geoff Boeing, fe wnaeth Allan Jacobs greu mapiau milltir sgwâr o ddinasoedd gwahanol fel modd o gymharu eu gwrthrychedd (objectivity). Hynny yw, bydd yr un cymhariaeth yn cael ei wneud rhwng un lle a’r llall gan bwy bynnag fo’r arsyliwr. Mae’r […]

Posted in Uncategorized | Tagged , , | Leave a comment

Lleisiau’r byd

Gwefan diddorol sydd wedi ymddangos yn ddiweddar yw Radio Garden. Mae’n bosib pori’r byd trwy fap rhyngweithiol a gwrando ar unrhyw orsaf sydd hefyd â darllediad arlein. Diddorol yw gwrando ar orsafoedd yn Tromsø Norwy, Pretoria De Affrica, a Lamarque yr Ariannin.

Posted in Uncategorized | Leave a comment

Chwyldro data mawr

Term sy’n cael ei ddefnyddio’n fwyfwy’r dyddiau hyn yw ‘data mawr’, a’r chwyldro honedig sy’n ei gwmpasu. Os yw data mawr mor arwyddocaol fel bod chwyldro yn digwydd, beth yn union ydyw? Un diffiniad sydd wedi cael ei rannu yw, ystyriwch unrhyw ddata sydd gennych yn y swyddfa neu o fewn eich cwmni, ac wedyn […]

Posted in Uncategorized | Leave a comment

Esblygiad ar waith

Bydd pobl yn tueddu i feddwl am esblygiad yn digwydd dros gyfnod o filoedd o flynyddoedd. Yr ydym yn dysgu ein bod yn deillio o fwncïod dros chwe i saith miliwn o flynyddoedd yn ôl, felly mae’n anodd iawn amgyffred yn y fath amserlin. Mae’r fideo hwn yn dangos esblygiad ar waith dros gyfnod byrrach. Yn y […]

Posted in Uncategorized | Leave a comment

Dathliadau Dwynwen a Burns

Yn ol ystadegau cofnodi ymwelwyr i’r blog hwn, yr oedd Gwresfap o’r Gymraeg ar Twitter yn reit boblogaidd. Felly dyma ddatblygiad ar yr un gwreiddiol. Casgliad o ddata o ble yr oedd pobl yn son am Santes Dwynwen neu Noson Burns, ill dau yn cael eu dathlu Ionawr 25, ar Twitter. Trwy ddefnyddio rhaglen sgriptio […]

Posted in Uncategorized | Leave a comment

Gwresfap o’r Gymraeg ar Twitter

Map wedi ei greu gyda data Kevin Scannel, Athro ym Mhrifysgol Saint Louis, map OpenStreetMap a chod agored Leaflet a Heatmap. Mae Kevin Scannel, ryw ffordd neu’i gilydd, wedi creu set o ddata sy’n cynnwys meysydd hydred, lledred a’r nifer o drydar. Petai’r wybodaeth a gasglwyd yn absoliwt, annhebyg iawn bydd mwy nag un trydar efo’r […]

Posted in Uncategorized | 1 Response