Twristiaeth yn oes Brexit

Taking back control

Daeth papur academaidd Culture, identity and tourism representation: Marketing Cymru or Wales? (PDF, 200kb) gan Annette Pritchard a Nigel Morgan, i’m golwg wedi penderfyniad hurt Llywodraeth Cymru i adeiladu cylch haearn yn y Fflint. Yr oedd y cylch i gynrychioli Cylch cestyll Edward 1af yng ngogledd Cymru, fel rhan o ryw ddodrefnan i ddenu twristiaid. Wedi’r ymateb cynddeiriog gan y cyhoedd, fe gladdwyd y syniad. Am rŵan o leiaf; synnwn i ddim petai’n atgyfodi oherwydd ddifyg unrhyw arweinyddiaeth economaidd well.

Yn y papur, mae trafodaeth ar sut caiff Cymru ei marchnata ym maes twristiaeth, gyda nifer o enghreifftiau. Yn gryno, pan fo Cymru yn cael ei marchnata yn rhyngwladol, y tirlun, y bobl, yr iaith a’r diwylliant sy’n cael ei arddangos fel nodweddion o bwys. Pan fo Cymru’n cael ei marchnata o fewn y DU, mae’n osgoi sôn am unrhyw ddiwylliant, yr iaith neu unrhyw arferion y Cymry. Dim ond y tirlun sy’n cael ei arddangos a’i werthu. O’r bobl a ymchwiliwyd yn y papur, mae sawl un arddangos agwedd digon trahaus at y Cymry, cystal ag anffawd Cymru yw’r Cymry.

Cafodd y papur ei gyhoeddi yn 2000 ond hyd yn oed eleni, prif nodweddion marchnata Croeso Cymru yw antur, Epic, a gweithgareddau awyr agored (gweler Zip World, Surf Snowdonia, Bounce Below [dim enwau Cymraeg yma diolch]). Os caf fod yn ddifrïol, troi fy nghartref yn “leisure opportunity” i bobl eraill. O’r hyn y gallaf ei weld a’i brofi, y flaenoriaeth, neu bosib yr unig strategaeth sydd gan Lywodraeth Cymru yw datblygu diwydiant twristiaeth ar draul unrhyw ddiwydiant arall.

Ysywaeth, tra bod Llywodraeth Cymru llarïaidd yn mynd yn ei flaen gydag Epic, mae Brexit. Os/pan fydd y DU yn gwahanu o’r Undeb Ewropeaidd, bydd yr Almaen, y wlad fwyaf a’r un sydd mwyaf pwerus eisoes, yn fwy fyth. Prif farchnadoedd twristiaid i Gymru yw’r UDA, yr Almaen, yr Iseldiroedd ac Awstralia. Eisoes mae gwerth cymharol y Bunt yn is, sydd yn gwneud Cymru yn le mwy fforddiadwy i’w hymweld, ac yn gyfleus i drigolion yr Almaen a’r Iseldiroedd.

Anffawd Cymru yw ei bod yn rhannu gwladwriaeth gyda Lloegr sydd am fod yn Brydain. Does dim yn dieithrio Cymru rhag bod yn rhan o Brydain cydlynol yn fwy na’r Gymraeg – yr “arall” – sy’n gadael i Loegr a Chymru creu cyferbyniad – y nhw a ni. (Gweler llyfr Simon Brooks, Pam na fu Cymru?) Caiff Gwyn Alf Williams ei ddyfynnu “A country called Wales exists only because the Welsh invented it. The Welsh exists only because they invented themselves.” Y Cymry, cymaint â’r Saeson yn gyfrifol am greu’r cyferbyniad, ac o gymorth yn diffinio’r ddwy wlad. Er dyfynnu barnau sydd yn siŵr yn ddigon adnabyddus i’r Cymry fel “something primitive and contemptible and best forgotten”, mae nifer o’r daliadau hyn yn parhau i ryw raddau hyd heddiw.

Gyda digwyddiad dirdynnol Brexit, mae wedi gwneud i nifer fod yn fwy cyfforddus ac agored am eu daliadau anghynnes. Dyfyniad arall o’r papur “… for these consumers, the Welsh language encapsulates Welsh patriotism and nationalism and WTB [Wales Tourist Board] research confirms that some English people are uncomfortable with the existence of a different (and thriving) language and heritage in their midst. For them another language excludes and engenders uncomfortable notions of foreignness”. Dyma agwedd sy’n crynhoi’r DU heddiw yn oes Brexit.

Gan fod twristiaeth yn gyfran fawr o fasnach ryngwladol, ni ddylid ei ddiystyru, ond dylid newid sut caiff ei gyflawni. Dylai Croeso Cymru a Llywodraeth Cymru newid eu strategaeth i ddifa’r gwahaniaethu mewn marchnata rhwng cynulleidfaoedd domestig a rhyngwladol. Trwy wahaniaethu, a dileu unrhyw sôn am Gymry yng Nghymru, maent yn atgyfnerthu’r agwedd sydd wedi ei ddyfynnu uchod. Pan ddigwyddodd refferendwm Brexit, daeth pobl i ddeall ei fod oll am elyniaethu pobl nad ydynt yn Seisnig. Trwy farchnata Cymru heb sôn am yr iaith, ei phobl na’i diwylliant, mae pobl yn dod i ddeall fod Cymru heb y Cymry.

Dylai twristiaeth fod er lles y Cymry, nid i’w difa o’r dirwedd.

This entry was posted in Uncategorized. Bookmark the permalink. Post a comment or leave a trackback: Trackback URL.

One Comment

  1. Posted 15/12/2017 at 14:13 | Permalink

    Annwyl Blog Newydd Sbon

    Rydyn ni’n ysgrifennu atoch chi achos bod ni’n datblygu prosiect newydd pwysig ynglŷn â’r iaith Gymraeg a hoffen ni gael eich help.

    Mae prosiect Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes (CorCenCC) yn brosiect uchelgeisiol a ddechreuodd yn swyddogol ar Fawrth 1af 2016 (gellir dod o hyd i fanylion pellach am hyn yma: sites.cardiff.ac.uk/corcencc/).

    Os posib i chi gysylltu â mi ar er mwyn i mi yrru mwy o wybodaeth i chi?

    Cofion cynnes,

    Lowri Williams
    CorCenCC Research Assistant | Cynorthwwydd Ymchwil CorCenCC
    Cardiff University | Prifysgol Caerdydd

Post a Comment

Your email is never published nor shared. Required fields are marked *

You may use these HTML tags and attributes <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <s> <strike> <strong>

*
*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.