Treiddiad y Gymraeg ym myd addysg

Gellir dadlau y cychwynodd addysg Gymraeg fodern gyda chyhoeddiad Y Gymraeg mewn Addysg a Bywyd yn 1927, gan ‘Y Weinyddiaeth Addysg’. Nid oes copi rhydd arlein i’w ganfod, ond mae cofnod ar Google Books. Llwyddais i ffeindio ailgyhoeddiad o 1953  yn llyfrgell Safle Normal Prifysgol Bangor, gyda’r map hwn o’r nifer o blant sy’n derbyn addysg Gymraeg yn yr ysgol gynradd.

Dosraniad plant yn derbyn addysg Gymraeg

Dosraniad plant yn derbyn addysg Gymraeg. (Gwreiddiol: 11.5MB)

Mae’r map yn dangos be y byddwn wedi ei ddisgwyl bryd hynny. Addysg Gymraeg mewn ysgolion, yn yr ardaloedd hynny sydd â chanran uchel o siaradwyr Cymraeg. Nid oedd gwybodaeth ar gael am ysgolion uwchradd na phrifysgolion, ond buaswn wedi disgwyl gweld dim patrwm tebyg i addysg gynradd.

Yn amlwg mae addysg uwchradd Cymraeg i’w gael yn y rhanfwyaf o Gymru heddiw, ac yn fwy fwy ym mhrifysgolion Cymru gyda sefydlu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Y patrwm yw twf mewn ‘addysg’, fel sydd wedi ei nodi yn y teitl. Ers y 1950au hyd heddiw, mae addysgu wedi bod yn cynyddu o oedran babanod, hyd gynradd, hyd uwchradd, a rŵan mewn prifysgolion. Y weithred ffurfiol o drosglwyddo gwybodaeth, gwaith sydd wedi ei wneud eisoes, at eraill, sydd wedi cynyddu o ran darpariaeth yn y Gymraeg,.

Y cam nesaf yw cynyddu defnydd o’r Gymraeg ym meysydd ymchwil. Mae hyn yn amlwg wedi bod yn digwydd eisoes mewn pynciau fel y Gymraeg a hanes, ond beth am beirianneg neu gwleidyddiaeth? Y broblem gyda defnyddio rhywbeth fel y nifer o ddoethuriaethau fel ffon fesur, yw bod ymchwil yn cael ei gynnal mewn maes arbenigol cul. I allu derbyn doethuriaeth, rhaid i’r ymgeisydd allu ffeinio unigolion arbenigol eraill i farcio’r gwaith. Cyfrwng Saesneg bydd hyn mwy na thebyg. Caiff doethuriaeth ei ennill ar sail y copi sy’n cael ei farcio, nid ar y gwaith na sut y’i cynhaliwyd.

Mewn gweldydd sydd â ieithoedd cadarn fel yr Almaen, gellir canfod yn aml tudalen agoriadol sydd â ‘Zusammenfassung’ ar y top. Yr arfer yw cyflwyno doethuriaeth Saesneg gyda chrynodebau neu ‘abstract’ yn yr Almaeneg yn gyntaf, a’r Saesneg yn ail. Mae hyn yn sicrhau bod rhan o waith arbennigol, er yn bitw, yn cael ei gyflwyno mewn cyd-destun Almaeneg. Yn ogystal a hyn, mae rhai prifysgolion, fel Prifysgol Melbourne yn Awstralia, yn nodi os yw doethuraeth am gael ei gyflwyno mewn iaith arall, rhaid cynnwys copi ryw 5,000 i 10,000 air sy’n crynhoi gwaith 80,000 o eiriau, yn y Saesneg.

Petai camau fel hyn yn cael ei gymryd yng Ngymru, nid yn unig y byddem yn ychwanegu at gorpws gyda geiriau arbenigol naturiol Gymraeg, ond gallem addysgu pobl gyda’r union wybodaeth a ddysgwyd yma yng Nghymru.

Dysgu ac addysgu, yng Nghymru.

This entry was posted in Uncategorized. Bookmark the permalink. Post a comment or leave a trackback: Trackback URL.

7 Comments

  1. Posted 02/04/2014 at 13:16 | Permalink

    Hyfryd.

    Diddorol yw’r ynysoedd tywyll yng Nghwm Cynon ac yn Sir y Fflint (ardal Trelawnyd o bosib?)

    • Huw
      Posted 02/04/2014 at 13:45 | Permalink

      Yn Sir Fflint mae’n edrych fel ardal Dyserth hyd Trelogan, gan gynnwys Trelawnyd.

  2. Posted 04/10/2014 at 17:27 | Permalink

    Diolch am y map. Roedd gen i gopi papur (ac wedi ei golli rwy’n afni) ond mae pdf yn fwy defnyddiol o lawer. Rwy’n meddwl dy fod yn cymysgu rhwng dau adroddiad gwahanol. Cyhoeddwyd y cyntaf, ‘Y Gymraeg mewn addysg a bywyd’ yn 1927. Cyhoeddwyd yr ail, ‘Lle’r Gymraeg a Saesneg yn ysgolion Cymru’ yn 1953. Rwy’n meddwl y dylai’r Llyfrgell Genedlaeth ddarparu copïau digidol o’r ddau adroddiad gwerthfawr hyn. Mae gen i gof i mi awgrymu hynny o’r blaen ond ni ddigwyddodd hyd yma.

    Daw’r map o adroddiad 1953. Cynhwysodd yr adroddiad fapiau unigol am bob sir a’r mapiau unigol hynny’n dangos ychydig yn fwy o fanylder. Gan fod Sir y Fflint wedi ei thrafod yma, af ati i’w roi ar statiaith.com, ynghyd â’r ffigurau. Dylwn gyfaddef nad ydw i’n deall yn unon beth sydd wedi ei fapio gyda llaw. Rwy’n meddwl mai cyfartaledd o’r holl oedrannau yw e, ond dydw i ddim yn gallu gweld ai plant 5-11, neu blant 5-15 neu 5 i 18 yw’r sail.

    • Huw
      Posted 05/10/2014 at 11:07 | Permalink

      Ar gyfrif Twitter Statiath, ai mapiau unigol o’r un ddogfen mae’r map uchod yn ran ohoni? Nes i sganio’r map ryw 4 mlynedd yn ôl, ond rywsut dim ond yn cofio un map mawr a oedd yn plygu allan. Nai fynd i edrych am y ddogfen eto hwyrach yr wythnos hon.

  3. Posted 05/10/2014 at 11:17 | Permalink

    Finnau’r un fath: wedi eu llungopio rai blynyddoedd yn ôl. Ie, map mawr o Gymru sydd yno. @statiaith wedu trydar hyd yma ond fe’u rhoddaf ar y wefan hefyd (yn y pendraw).

  4. Posted 05/10/2014 at 19:16 | Permalink

    Wedi ychwanegu’r hanes, a dolen at pdfs y siroedd unigol, at wefan statiaith: Y Gymraeg yn ysgolion Cymru yn 1950

    • Huw
      Posted 10/10/2014 at 11:51 | Permalink

      Yn llyfrgell Coleg Normal Bangor mae sawl copi o’r ddau lyfr sydd wedi eu crybwyll uchod ar gael, a’r catalog yn dweud bod mwy mewn llyfrgelloedd eraill.

      Yn y ddogfen Lle’r Gymraeg mewn addysg a bywyd, mae un map bach sy’n dangos y canran o siaradwyr Cymraeg dros fannau mawr. Yn y ddogfen Lle’r Gymraeg a Saesneg mewn addysg uwch, dim ond un map sydd a hwnnw sydd uchod.

Post a Comment

Your email is never published nor shared. Required fields are marked *

You may use these HTML tags and attributes <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <s> <strike> <strong>

*
*