Ffiseg cwantwm – pan fo dau yn un

Prin yw ysgrifau Cymraeg am wyddoniaeth, felly dyma’r cyntaf o nifer o loffion posib.

Ym maes ffiseg glasurol, mae dau gysyniad sylfaenol. Y naill yw’r cysyniad o ronyn; endid annibynnol gyda lleoliad penodol a momentwm sy’n symud yn unol â deddfau mudiant Newton. Y llall yw’r cysyniad o don electromagnetig. Endid ffisegol estynedig sydd gyda phresenoldeb ym mhob pwynt mewn gofod. Rhoddir y don gan feysydd trydanol a magnetig sy’n newid yn ôl deddfau electromagnetig Maxwell. Mae’r darlun a geir gan ffiseg glasurol yn un taclus. Deddfau mudiant gronynnau yn disgrifio deunyddiau, a deddfau electromagnetig yn disgrifio golau’r bydysawd.

Yn 1900, fe darfodd Max Planck ar y darlun taclus hwn. Cyhoeddodd ddamcaniaeth ar belydriad corff du. (Corff du yw deunydd perffaith damcaniaethol, sy’n amsugno ac yn allyrru unrhyw ymbelydredd trawol yn ddiamodol.) Rhoddodd Planck ddisgrifiad o’i arsylwadau ar belydriad corff du, drwy gymryd bod atomau yn amsugno ac allyrru pelydriad gydag egni cwanta arwahanol (pecyn o egni). Darganfuwyd bod egni’r cwanta (pecynnau) mewn cyfrannedd union ag amlder y don a allyrrwyd neu amsugnwyd gan yr atom, gan arwain at:

egni = cysonyn x amlder

Gelwir y cysonyn hwn yn Cysonyn Planck bellach.

Mae’r hyd a adnabyddir fel dau faes arwahanol, sef byd deunyddiau a byd golau, bellach yn gysylltiedig. Disgrifiadau bras yn unig o’r hyn a welwn yw dau gysyniad sylfaenol ffiseg glasurol. Oherwydd hyn, mae popeth yn ein byd yn rhannu nodweddion gronyn a thon o hyd, gan gynnwys darn o graig!

This entry was posted in Uncategorized. Bookmark the permalink. Post a comment or leave a trackback: Trackback URL.

Post a Comment

Your email is never published nor shared. Required fields are marked *

You may use these HTML tags and attributes <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <s> <strike> <strong>

*
*