Canmlwyddiant Capel y Groes, Pen-y-cae

IMG_7423

Ryw peder mlynedd yn ôl addewais, fel rhan o ddiwrnod Pethau Bychain, i ddigido fy hen-daid yn adrodd hanes ei gapel lleol oddi ar tâp rîl-i-rîl. Gyda chymorth mawr a hael Dan Griffiths o Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, llwyddais.

Hyd yn oed os nad yw’r pwnc yn eich diddori, i mi daw’r cynnwrf o adfer a digido hen dâp sydd wedi bod mewn cwpwrdd, a rhoi bywyd newydd. Dyma fy hen daid, felly ni chwrddais â fo.

Rhaid i mi nodi nad oeddwn yn siwr beth i’w ddisgwyl. Soniodd fy nhad bod recordiad, ble yn fyr rybudd fe ysgogwyd William Henry Jones i recordio’i hun yn adrodd hanes canmlwyddiant ei gapel yn lolfa’i dŷ. Yn ôl sôn y pethau pwysig yn ei fywyd oedd gwylio tîm pêl-droed Wrecsam bob wythnos, bywyd y capel a threfnu eisteddfodau yn gysylltiedig â’r capel. Ei swydd oedd Prif Weinyddwr Meddygol yr Amwythig. Yr oedd yn aml yn cystadlu yn yr eisteddfodau (yr oedd un ar Ionawr 1af pob blwyddyn) yn ogystal a’u trefnu a chasglu pres. Mae’n debyg bod y ysgrif hwn yn ddarn gystadleuol.

Wedi dipyn o oedi dyma hi’r recordiad o 10 Mehefin 1963. Unwaith eto rhaid pwysleisio na buasai hyn yn bosib oni bai am gymorth Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, a Dan Griffiths.

Felly dyma’r recordiad ar SoundCloud, a PDF a ysgrifennodd a sy’n cael ei adrodd.

William Henry Jones yn adrodd ei hanes ar Ganmlwyddiant Capel y Groes, Pen-y-cae, Rhos Wrecsam.

This entry was posted in Uncategorized. Bookmark the permalink. Post a comment or leave a trackback: Trackback URL.

One Comment