Raspberry Pi

Heddiw

Ddoe (29ain Chwefror 2012) cyhoeddodd Sefydliad Raspberry Pi bod ei chyfrifiadur £22 ar gael i’w brynu. Gwerthodd y 10,000 cyntaf o fewn munudau. Bydd eraill yn cael eu creu o dan drwydded gan gwmnïau RS a Farnell yn eu tro. Tan hynny, mae’n bosib cofrestru diddordeb ar eu gwefannau.

Fersiwn i ddatblygwyr sydd ar gael gyntaf, ond bydd fersiwn addysgiadol ar gael erbyn diwedd y flwyddyn.

Teimlaf rywsut dylent wedi rhyddhau’r cyfrifiadur heddiw ar Ddydd Gŵyl Dewi, gan chwarae gyda’r neges o “gwnewch y pethau bychain”, ond o wel.

 

Pam?

Dyluniwyd cyfrifiadur Raspberry Pi i geisio ateb anfodlonrwydd diwydiant a byd addysg ynghylch diffyg gallu pobl ifanc gyda sgiliau cyfrifiadurol. Cwyn sy’n cael ei ail-adrodd drosodd a throsodd yw nad oes gan bobl ‘sgiliau’ digonol; boed yn llythrennedd, rhifedd neu allu cyfrifiadurol. Un sydd wedi bod yn feirniadol yw cyn prif weithredwr Google, Eric Schmidt, gan nodi bod Prydain wedi bod yn arloeswr ym maes cyfrifiadureg yn y gorffennol, ond bellach ddim yn arwain yr un maes. Dywedodd fod peryg i Brydain cael ei gadael ar ôl yn yr economi digidol.

Yn yr 80au, yr oedd nifer o blant yn ddigon ffodus i gael mynediad at gyfrifiaduron BBC Micro mewn ysgolion a’r Sinclair Spectrum gartref. Yn gyntaf roedd y BBC Micro wedi ei ddylunio yn arbennig i addysgu rhaglennu a chyflwyno cyfrifiaduron personol (PC) i genhedlaeth newydd, ynghyd â chyfres addysgu’r BBC. Yn ail, yr oedd y Sinclair Spectrum yn gyfrifiadur bach personol â’r gallu i chwarae gemau gartref, ond roedd hi’n bosib rhaglennu arno hefyd gydag iaith BASIC. Ill dau yn rhoi cyfle i bobl ifanc ddysgu cyfrifiadureg. Nid fi yn bersonol, ond mae sawl stori o blant direidus yn yr 80au yn rhaglennu Spectrum mewn siop i ddangos eu henwau ar deledu cyn rhedeg i ffwrdd!

Ar hyn o bryd, mae ysgolion yn tueddu i addysgu technoleg gwybodaeth sydd i’w weld dim byd mwy na’r gallu i ddefnyddio pecyn meddalwedd Office gan Microsoft. Prin iawn yw’r bobl sy’n deall egwyddorion gweithredu cyfrifiadur, sydd yn y pendraw yn galluogi pobl i’w gymhwyso er mwyn pob math o bethau i ddatrys problemau. Un enghraifft o ddeall egwyddorion gweithredu a’r gallu i gymhwyso yw deall bod batri efo dau begwn: + a -. Petai dyfais ddim yn gweithio yr ydych efo greddf i wneud yn siŵr bod dau begwn cell batri yn gwneud cysylltiad, neu geisio newid cyfeiriad y gell. Gall yr un peth cael ei ddweud am gyfrifiaduron; petaech eisiau cau ffenest ar y sgrin, yr ydych yn edrych yn y corneli am groes.

 

Bwriad

Cynllun Sefydliad Raspberry Pi yw rhoi cyfrifiaduron sydd â phwyslais ar raglennu yn nwylo plant ysgol. Y ffactor mwyaf yw cost, ac felly mae’r elusen wedi sicrhau bod y cyfrifiadur ar gael mewn dau fodel; y naill yn gwerthu am tua £16 a’r llall am £22. Mae gallu’r cyfrifiadur yn cael ei adlewyrchu yn y pris. Gan ei fod yn elusen, bydd unrhyw elw yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo addysg cyfrifiadura o fewn ysgolion yn y DU.

Prif nodweddion y cyfrifiaduron yw’r gallu i redeg ar fewnbwn pŵer isel oddi ar miniUSB; sglodyn 700MHz gyda gallu graffigol i arddangos fideo manylder uwch 1080p; porth fideo auxillary; porth clustffonau; dau borth USB arferol; porth ethernet i gysylltu â rhwydwaith a bosib y rhyngrwyd; porth cerdyn SD; porth HDMI.

Arsefydliad disgwyliedig yw cysylltu’r Raspberry Pi at deledu gyda gwifren HDMI; cysylltu llygoden a bysellfwrdd i’r pyrth USB; cysylltu’r porth ethernet i lwybrydd; ei bweru oddi ar blwg pŵer isel; cychwyn y meddalwedd gweithredu oddi ar cerdyn SD. Mae’r fersiwn rhatach heb borth ethernet a dim ond ag un porth USB. Nid oes cof parhaol ar gael ar y cyfrifiadur, felly mae’n dibynnu ar gerdyn SD i lwytho meddalwedd gweithredu ac i gadw unrhyw waith. Meddalwedd gweithredu tybiedig yw fersiwn arbennig o Fedora (Linux) sydd ar gael am ddim, ac wedi ei ddylunio i weithio ar y Raspberry Pi.

Cefnogwyr o’r fenter yw Prifysgol Caergrawnt a gwneuthurwyr asglodion Broadcom. Daw cyfraniad Prifysgol Caergrawnt a Broadcom ar ffurf asglodyn unigryw sydd ag unedau brosesu ganolog a raffigol a chof hapgyrch (RAM) efo’i gilydd.

 

Diagram o'r Raspberry Pi

 

 

Defnydd

Gan mai fersiwn i ddatblygwyr sydd ar gael gyntaf, mae’n rhoi cyfle i gymuned brwdfrydig greu meddalwedd ac adnoddau eraill i’r Raspberry Pi. Bydd hyn yn rhoi mwy o ddewis a gwahoddiad i blant ysgol gymryd at y cyfrifiadur a chychwyn chwarae o gwmpas a rhaglennu. Erbyn diwedd y flwyddyn pan fydd miloedd yn cael eu creu, bydd y Raspberry Pi yn gwneud ei ffordd i mewn i ysgolion, a rywsut yn ffeindio’u ffordd i mewn i wersi a chwricwla gobeithio.

O safbwynt y Gymraeg, rŵan ydi’r amser i greu adnoddau i’r Raspberry Pi, boed yn gynllun gwersi ar sut i raglennu neu feddalwedd sy’n cyflawni pwrpas arbennig. Gan ei fod am redeg system gweithredu Fedora cod agored gall cael ei gyfieithu a’i leoleiddio i’r Gymraeg yn ddigon hawdd.

Mae’n bosib iawn bydd Podd yn atgyfodi fel ryw gyfeirnod i’r gorffennol. Yr oedd fersiwn Cymraeg o’r rhaglen sydd i’w weld isod ar gael. Yr oedd hi’n bosib dweud iddo ‘rhegi’, ond bydd yn gwrthod gan ddweud “Nid yw Podd yn gallu rhegi”. :-P

Cofnodwyd y cynnwys hwn yn Iaith, Technoleg. Rhoi nod tudalen i'r dolen-parhaol. Rhoi sylw neu adael ôl-lwybr: URL Ôl-lwybr.

Un Sylw

  1. Posted Mawrth 2, 2012 at 09:32 | Permalink

    Fi’n cofio Podd, yn fy ysgol nol yn 1986! A Granny’s Garden.

    Mae modd cyfrannu i gyfieithiadau Fedora eisoes. Ydy’r fersiwn o Fedora ar Raspberry Pi yn rhedeg GNOME tybed?

Un Ôl-lwybr

  1. Gan Raspberry Pi a’r Gymraeg | Hacio'r Iaith Mawrth 1, 2012 am 22:30

    [...] Pi a’r GymraegMae Huw Waters wedi blogio yn esbonio popeth am y cyfrifiadur bach hwn: Ddoe (29ain Chwefror 2012) cyhoeddodd Sefydliad [...]

Rhoi Sylw

Ni chaiff eich cyfeiriad ebost byth mo'i gyhoeddi na'i rannu. Dynodwyd meysydd angenrheidiol gyda *

*
*

Gallwch ddefnyddio'r tagiau HTML canlynol: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>

  • Categorīau

  • Archifau