Mewn unrhyw ddinas, fe wnewch chi ganfod graffiti. Fel arfer bydd y graffiti’n gymysgedd o dagiau pobl neu ddarluniau diddorol o angenfilod, ond oll yn oddrychol. Mae’n gyfle i ‘artistiaid’ mynnu dangos eu doniau na chaiff i weld fel arall. Fel rheol bydd y graffiti’n cael côt o baent ar ei ben i’w ddifa, gan ei fod yn ‘israddio’ cymuned a denu torcyfraith, yn honedig ac yn ymarferol. Ond fel arall, mae awdurdodau lleol yn ariannu graffiti. Graffiti gyda negeseuon clir.
Mae sawl corff celfyddydol wedi penderfynu cyllido’r ‘artist’ Stephen Powers i ddylunio a chreu murluniau gyda phobl ifanc o amgylch dinas Philadelphia yn yr UDA. Pe baech wedi bod i rai o ddinasoedd mawrion y byd neu’n gwylio ambell i ffilm, mae llawer o graffiti yn digwydd ar ben toi adeiladau tal, sydd i’w weld o drenau ac o bontydd. Oherwydd hyn, mae Stephen Powers wedi mynd ati i greu murluniau ar ochrau adeiladau sy’n weledol o ardal eang. Be sy’n wahanol am ei graffiti yw’r negeseuon; negeseuon clefar sydd bosib yn dod o’r galon, ond pob un sy’n rhoi gwên ar fy wyneb. Maent oll mewn arddull hysbyseb, tebyg i’r un “Stokes Paint” sydd i’w weld ar ochr tŷ get cyfnewidfa’r Gabalfa, Caerdydd.
Ydi hi’n bosib creu rhai Cymraeg, hurt a chynganeddol? “Dwi dros ben llestri am ferch y crochenydd.” ?
Dyma fy hoff rai:
(via 30gms)





