Un o’r pethau y daethais ar ei draws yn ddiweddar oedd Cylch Emosiwn Plutchik ar wefan Swiss Miss. Mae’n dangos yr amrywiad o emosioynau a sut maent wedi eu cysylltu. Er bod seicolegwyr gyda diffiniad penodol o beth a olygir gan bob un, a hefyd y mwyafrif o bobl i ryw raddau, pan fo’r angen i berson lleyg roi diffiniad mae’n anodd! Yr oedd hyd yn oed gwirio’r diffiniadau gyda Geiriadur yr Academi yn rhoi yr un geiriau am fwy nag un emosiwn. Er enghraifft, terror, fear ac apprehension, oll yn cael eu disgrifio gan “ofn”. Wedi dweud hynny, mae’r holl faes yn un diddorol dros ben, sef sut yr ydym yn teimlo.
Dwi wedi ceisio creu cylch fy hun gydag enwau Cymraeg yr emosiynau a enwid uchod. Bydd clic ar y llun yn rhoi y fersiwn mwyaf.
Mae croeso i chi gynnig newidiadau neu hyd yn oed ymestyn y model gan geisio ychwanegu emosiynau eraill (oes eraill?).


5 Sylw
Gwaith da.
Mae teimladau yn eitha penodol i iaith, dw i’n meddwl. Hwyl, schadenfreude ac ati.
Mae teimladau yn eitha penodol i iaith
Ie, Huw, galli di ail-wneud un ar gyfer Cymru Cymraeg – un cylch mawr, wedi ei dorri yn ei hanner, un hanner ‘hiraeth’ a’r llall ‘annobaith’
Mae rhywun newydd greu erthygl Emosiwn ar y Wicipeida. Byddai’n wych gallu defnyddio dy gyfieithiad di o gylch emosiwn arno. Faset ti’n fodlon ei lwytho fyny yno o dan drwydded rhydd, neu mod i’n gwneud?
http://cy.wikipedia.org/wiki/Emosiwn
Dwi’m yn hollol siwr sut i wneud ar hyn o bryd, ond mae croeso i ti ei wneud.
O’r diwedd, dwi wedi ei uwchlwytho yma: http://commons.wikimedia.org/wiki/File:Emosiwn_Cymraeg.jpg
Ac wedi ei ddefnyddio yma:
http://cy.wikipedia.org/wiki/Emosiwn
Diolch am rannu.