Wrth deithio, yn aml byddaf yn gweld placiau glas sy’n nodi digwyddiad neu ym mha dŷ y ganwyd rhywun enwog. Nid yw’r syniad yn un sy’n wreiddiol i Lundain yn unig, ond gellir dweud mai’r ddinas hon sydd mwyaf adnabyddus am ei ddefnydd, oherwydd y nifer. Yn Lloegr cychwynwyd y cynllun gan Cymdeithas Brenhinol Y Celfyddydau ond bellach Etifeddiaeth Lloegr sy’n gyfrifol dros eu cadw. Nid Etifeddiaeth Lloegr yn unig sy’n gosod placiau glas, ond ceir nifer o gymdeithasau sifig sy’n cynnal rhai eu hunain. Er enghraifft defnyddia Cyngor Manceinion Fwyaf 3 lliw i’r placiau: glas am berson; coch am ddigwyddiad; du am adeilad o bwys.
Medrwch chi unai dod ar draws lleoliadau placiau glas ar wefan Etifeddiaeth Lloegr, neu fynd i grwydro. Yng Nghymru dwi’n cofio gweld un ar dŷ Llwyn yr Eos ble y ganwyd Ivor Novello ar Heol y Bontfaen, a un neu ddau plastig gwael arall o gwmpas Caerdydd ond dim â chynllun cyson. Nid yn unig mae pobl yn amwymwybodol o’u hetifeddiaeth a hanes lleol, ond dyma fethu ar cyfle da i hyrwyddo diwylliant Cymreig a Chymraeg a’r diwydiant twristiaeth. Tydi pobl ddim yn cael y cyfle i ddychmygu stryd eu magu gyda chewri bywyd. Dyma be sydd gan Stephen Fry i’w ddweud am y peth.
Tra’n teithio’r UDA yr haf yma, cymerais lun o’r plac isod yn Annapolis. Mae’n adrodd hanes yr adeilad. Petai rhywun yn gwneud rhywbeth tebyg ac yn y Gymraeg, gall ennyn diddordeb a rhoi’r iaith mewn sefyllfa mwy cyhoeddus i ymwelwyr.
Pwrpas y placiau glas yw gwneud hi’n hysbys i grwydrwyr be sydd wedi digwydd tu ôl i wal tŷ. Wedi dweud hyn os yn cynllunio trip da bydd nifer yn ymchwilio pethau fel hyn o flaen llaw. Tra’n gwneud brith-ymchil daethais o hyn i gais un dyn am ryddid gwybodaeth ynghylch placiau glas. Gofyniad y dyn oedd lleoliadau penodol y placiau glas yn Llundain ar wefan Etifeddiaeth Lloegr, ac unrhyw brosiectau mewn dinasoedd eraill fel Lerpwl. Y dyn yw Frankie Roberto ac mae’n cadw blog. Ei fwriad oedd ceisio cyflwyno gwybodaeth am blaciau glas trwy ffôn symudol. Mae ei gofnod manwl a thrafodaeth difyr ar ei flog. Crëwyd map Google gan un o’r sylwyr.
Y penderfyniad anodd yw placiau glas i gofio pwy? Yng Nghymru byse hi’n hawdd rhoi plac i bron iawn pob pregethwr adeg y diwygiad! Amodau Etifeddiaeth Llundain dros blaciau glas Llundain yw:
- wedi marw ers 20 mlynedd neu 100 mlynedd ers genedigaeth;
- bod yr adeilad yn parhau i sefyll;
- os am goffa digwyddiad rhai iddo fod o bwys cenedlaethol.
Yn ogystal â hyn, ni chaiff mwy na dau blac glas ei godi. Hynny yw, gall un plac fod am fan genedigaeth ac un arall dros le digwyddiad yn cynnwys y person – dim mwy.


2 Sylw
Ti di weld hwn?
http://haciaith.com/2010/09/16/map-o-blaciau-awduron-gan-academi/
Newydd ddychwelyd o Lundain, dw i’n genfigennus o’r placiau yna!
Do, methu cofio ble gwelais y peth.
Ond placiau’r Academi yw rhein yn unig. Dylem gael placiau i Gymry o bob maes – llenyddiaeth, hanes, gwyddoniaeth, crefydd etc.
Nid yn unig ceisio’u cofnodi arlein gyda rhywbeth fel Google Maps neu ddefnyddio rhwybeth fel Open Layers, ond rhai ffisegol. Fel yn Llundain, ti’n cerdded i lawr y stryd ac yn sylwi ar blac glas ar adeilad ac yn meddwl “aaa, oedd X yn byw yma felly?”.