Tair Deddf Roboteg Isaac Asimov

Yn nofel gwyddonias Isaac Asimov, “I, Robot” mae dyfyniad o Llawlyfr Roboteg sy’n nodi’r Tair Deddf Roboteg, sef:

  1. Ni chaiff robot anafu bod dynol neu, drwy ddiffyg gweithredu, gadael i fod dynol profi niwed.
  2. Rhaid i robot ufuddhau gorchmynion gan fodau dynol, ac eithrio rhai sy’n groes i’r Ddeddf Gyntaf.
  3. Rhaid i robot ddiogelu bodolaeth ei hun ar yr amod nad yw’r gwrthdaro â’r Deddfau Cyntaf ac Ail.

Clawr llyfr I, Robot.

Er fod pobl o hyd yn ceisio creu robotiaid mwy galluog ac ymwybodol, nid oes yr un yn agos at fod yn gymharol ag anifail. Pryd bynnag y daw y dydd y digwyddith hyn, ers y dechrau mae gosod ffiniau moesol a moesegol fel mae dyn yn ei weld wrth wraidd datblygiadau.

Mewn cydnabyddiaeth o waith Asimov, mae gwefan gerddorol, cymdeithasol, last.fmyn talu teyrnged mewn ffordd gwahanol. Soniais mewn cofnodiad cynt am we-ymlusgwyr. Bydd peiriant chwilio fel Google yn crwydro’r we yn edrych am gynnwys a dolenni. Trwy gytundeb gwirfoddorol, gall gwefan dweud wrth we-ymlusgwr i beidio cofnodi rhai tudlaennau gyda ffeil “robots.txt”. Isod mae cynnwys ffeil “robots.txt”.


User-Agent: *
Disallow: /music?
Disallow: /widgets/radio?
Disallow: /show_ads.php

Disallow: /affiliate/
Disallow: /affiliate_redirect.php
Disallow: /affiliate_sendto.php
Disallow: /affiliatelink.php
Disallow: /campaignlink.php
Disallow: /delivery.php

Disallow: /music/+noredirect/

Disallow: /harming/humans
Disallow: /ignoring/human/orders
Disallow: /harm/to/self

Allow: /

Mae’r ffeil yn dweud wrth Google i beidio cofnodi unrhyw gyfeiriadau sy’n dilyn Disallow: Os parhewch i ddarllen fe welwch chi y Tair Deddf Roboteg.

Cofnodwyd y cynnwys hwn yn Uncategorized. Rhoi nod tudalen i'r dolen-parhaol. Rhoi sylw neu adael ôl-lwybr: URL Ôl-lwybr.

Rhoi Sylw

Ni chaiff eich cyfeiriad ebost byth mo'i gyhoeddi na'i rannu. Dynodwyd meysydd angenrheidiol gyda *

*
*

Gallwch ddefnyddio'r tagiau HTML canlynol: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>

  • Categorīau

  • Archifau

Dywedwch Ie dros Gymru. Say Yes for Wales