Eleni, Mawrth 23 lansiwyd UK Space Agency i ailosod Canolfan Gofod Cenedlaethol Prydain. Bosib eich bod yn ceisio cofio pryd oedd y tro olaf i chi weld roced yn cael ei yrru o’r DU i’r gofod? Fel rheol bydd gwyddonwyr seryddol y DU yn adeiladu neu gyfrannu at loerennau sydd yn mynd tu fewn i’r rocedi. Chwaraeodd Prifysgol Caerdydd rhan allweddol yn adeiladu lloeren Herschel, sef y telesgop gofodol mwyaf hyd heddiw. Wedi dweud hyn, llawer o ddim mae’r asiantaeth yn ei wneud – ewch chi ddim yn bell ym myd gwyddoniaeth gyda £60 miliwn.
I’r rhai sydd â diddordeb yr oedd y rhan fwyaf o’r trafod ynghylch yr asiantaeth newydd, yn ymwneud â’r logo. Sylw nifer oedd ei fod yn edrych fel logo Dad’s Army, a hyn yng nghyd-destun toriadau enfawr i gyllid ymchwil gwyddoniaeth y wlad; cyllid sy’n creu cymaint o fanteision a chyfoeth mwy yn y pendraw. Felly does neb yn disgwyl llawer gan yr asiantaeth. Gallwch weld y logo chwerthinllyd isod:
Wrth gwrs, peidiwch â disgwyl gair o Gymraeg yn agos at logo Prydeinig, Tydi o ddim yn ddigon cryno na thaclus…
Gan nodi ynghynt fydd yr asiantaeth Brydeinig yn gwneud fawr o ddim a heb gyllid i fod yn prynu rocedi ac offer drud arall, pam na all asiantaeth gofod i Gymru gael ei sefydlu? Byse fo’n syniad digon cŵl – corff breuddwydiol â gwreiddiau mewn ffuglen wyddonol o’r diwrnod pan fyddwn yn gwibdeithio o un seren i’r llall. Byswn i wedi dychmygu logo o ddraig yn pwyntio am ei fyny, a’i thafod yn creu ryw do, yn debyg i’r logo uchod. Os gall rhywun creu logo digon taclus, mi drïai mynd ati a chael sticeri wedi eu gwneud. Yn wahanol i’r logo uchod, bydd gair o Gymraeg yn agos at y logo hon.
2 Sylw
Glywais ti ddim am WASA?
http://welshspaceagency.blogspot.com/
Naddo!