I’r mwyafrif ohonom, bydd y wyddoniaeth yr ydym yn ei glywed yn ddyddiol yn dod trwy gyfrwng Saesneg Americanaidd. Ers milenia mae gwybodaeth gwyddonol dynol-ryw wedi deillio o wahanol ddiwylliannau ac ieithoedd. Ieithoedd amlwg yw’r Roeg a Lladin; eraill yw Arabeg ac Almaeneg.
Ym mha bynnag iaith y gwnaed neu y cyflwynir y darganfyddiad gwyddonol, mae enw unigryw a chynhenid yn yr un iaith. Enghreifftiau o hyn yw darganfyddiad yr elfen Twngsten sydd â’r symbol W o’i enw Almaeneg Wolfram, neu’r enw Betalgeuse am seren sy’n golygu “yr un canol” yn Arabeg.
Am gyfnod cafodd darganfyddiadau gwyddonol eu cyflwyno trwy Ladin, fel gwaith Isaac Newton ar galcwlws; bellach Saesneg yw’r iaith ddetholedig, yn enwedig yn y byd gorllewinol. Gwledydd sy’n gwneud fel y mynnant yw’r Almaen a Siapan, a rwan yn fwyfwy Tsieina. Rywsut mae pobloedd y byd wedi eu cyflyru i dderbyn mai Saesneg yw unig gyfrwng gwyddoniaeth, er bod hyn yn bell o fod yn wir. Ar wahân i’r geiriau unigryw sy’n deillio o’r iaith mae gwaith yn cael ei gyflwyno ynddi, ble mae’r Gymraeg yn dibynnu ar wyddonwyr i gyflwyno gwaith gwreiddiol yn yr iaith, mae wrth gwrs trosiadau.
Oherwydd bod nifer yn derbyn Saesneg fel cyfrwng iaith gwyddoniaeth, anodd yw dod ar draws geiriau gwyddonol Cymraeg yn niwylliant poblogaidd, gydag unrhyw gof o ddyddiau gwersi gwyddoniaeth TGAU i nifer. O safon uwch ymlaen, Saesneg bydd cyfrwng dysgu i’r mwyafrif.
Mewn dull o geisio cynorthwyo pobol i ddod yn gyfarwydd â geiriau gwyddonol Cymraeg, a hyd yn oed ychwanegu at ein gwybodyddion, yr ydwyf wedi creu ryw eiriadur arlein. Mae’n bell o fod yn gyflawn neu yn syniad newydd, ond yr hyn sydd yn wahanol amdano yw’r gallu i chwilio’n gyflym a hynny gyda rhan o allweddair. Felly os gyflenwch ‘wyd’ cewch ganlyniadau sy’n cynnwys arwyddnod a dilysrwydd. Bydd y dudalen yn chwilio trwy gronfa ddata wedi tair llythyren. Rhowch dro arni, ac awgrymwch unrhyw welliannau yn sylwadau’r cofnod hwn.
4 Sylw
Gwych. Beth am ddangos faint o eiriau sy yn y geiriadur a falle ffurflen i gynnig termau sydd ddim ynddo? (Mae’n rhaid i ti droi’n gymedrolwr o fath wedyn ond mae’n siwr fydde llawer o dermau sydd ddim yn rhy ddadleuol).
Iawn. Yn gweithio arno rŵan.
Job da, wnes i ychwanegu’r dolen i http://hedyn.net/geiriaduron#termau_technolegolarbennig
Gair mathemateg gan Cymro:
Zenzizenzizenzic
gan Robert Recorde o Ddinbych-y-Pysgod.
“Ef oedd y cyntaf i ddefnyddio’r hafalnod = ym 1557″!
Dwi wrthi’n ychwanegu at y peth, gan gynnwys ffurflen i bobol ychwanegu termau eu hunain. Bydd hyn wrth gwrs yn cael ei gymedroli.
Er fod gair mathemategol gan Recorde, oes term Cymraeg? Dim ond Eidaleg a Saesneg gwelaf i!
Un Ôl-lwybr
[...] This post was mentioned on Twitter by Metastwnsh and Dafydd Tomos, Huw Waters. Huw Waters said: Geirfa wyddonol Gymraeg. http://stwnsh.com/10g [...]