OpenStreetMap, Merkaartor a Chartograffiaeth

Cartograffiaeth yw’r grefft o greu darluniau cyffredinol neu gymleth sy’n cyfleu nodweddion ffisegol fel ffyrdd neu fynyddoedd, neu nodweddion mwy haniaethol fel ffiniau gweinyddol. Mapiau – sydd yn deillio o wybodaeth gofodol. Er fod y syniad yn digon syml ac yn beth sydd wedi ei gyflwyno i ni ers yn blant, gall fod yn andros o ddefnyddiol a phwerus.

Gall cartograffiaeth gael ei dderbyn fel celf neu wyddor. Celf yn y modd mae gwybodaeth yn cael ei gyflwyno i’r defnyddiwr, a hwnw mewn dull priodol, lliwgar a hwylus; gwyddonol gan fod angen cynllun o sut i greu fap o ystadegau neu greu topoleg o nodweddion ffisegol fel map tiwb Llundain. Gweler isod.

Nid oes raid i gartograffiaeth fod yn llym gysylltedig â daearyddiaeth. Gall cael ei ddefnyddio mewn meysydd cymdeithasegol neu hyd yn oed llenyddiaeth. Gweler y llun isod ar sut mae cymeriadau gweithiau William Shakespeare yn croesi ei gilydd. Wedi dweud hyn, mae cartograffiaeth yn dibynnu ar wybodaeth gofodol sy’n rhoi mapiau i ni. Tydi map ddim pob tro yn gysylltiedig â chartograffiaeth. Cerwch i wefan Information is Beautiful am sawl enghraifft sydd ddim yn defnyddio unrhyw wybodaeth gofodol o gwbl.

Mae bywydau nifer wedi cael eu newid gyda dyfodiad Google Maps, a chyn hynny gwefannau fel StreetMap a MultiMap. Ym mhob enghraifft maent wedi bod yn defnyddio gwybodaeth caeëdig, unai wedi ei gasglu gan nhw eu hunain neu’n cael ei ddefnyddio drwy drwydded gan yr Arolwg Ordnans neu gwmni arall. Gwefan sydd yn cynnig gwasanaeth mapio a hynny’n god agored yw OpenStreetMap. Disgrifir fel Wikipedia’n cwrdd â mapiau – yn rhydd i bawb olygu a chyfrannu cymaint a phosib.

Yn y rhifyn cyfredol o’r cylchgrawn Wired (Medi 2010) mae sôn am OpenStreetMap a sut i gyfleu gwybodaeth yn weledigaethol. Cafodd defnydd mawr o OpenStreetMap ei wneud adeg y trychineb yn Haiti. Wrth i gyrff cymorth rhyngwladol geisio teithio trwy Haiti o’r Weriniaeth Dominicaidd, yr nifer yn mynd ar goll. Oherwydd hanes Haiti, does ddim llawer o fapio wedi digwydd neu ddim byd digon dibynnol a chyfredol. Mi wnaeth y cymhorthwyr cyntaf i Haiti gwneud yr ymdrech i ddefnyddio dyfais GPS i fapio prif lwybrau’r wlad. Cafodd hyn ei gofnodi ar OpenStreetMap a oedd wedyn wedi ei olygu arlein i symleiddio cromliniau fewn i linellau mwy syth; nid i gynrychioli’n union ond i roi syniad o’r tirwedd – ble mae afonydd, coedwigoedd, pontydd.

Gan fod OpenStreetMap yn god agored mae modd ychwanegu at y peth, nid yn unig gyda gwybodaeth atodol, ond y system ei hun. Mae cynllunio sylweddol y tu ôl i’r system sy’n caniatau i bobol nodi pob math o nodweddion gan gynnwys blychau post, coed unigol, safle bws neu dafarn lleol. Gall gwybodaeth helaeth gael ei ychwanegu fel enwau Cymraeg neu Saesneg, enw tafarn, haen ffordd os oes mwy nag un ffordd yn croesi ei gilydd.

Gyda OpenStreetMap yn god agored sy’n cynnwys API (rhyngwyneb rhaglennu rhaglen?) gall meddalwedd gael ei ddatblygu i ychwanegu, golygu neu echdynnu gwybodaeth. Un o rhain yw Merkaator (swnio’n debyg i Mercator yn tydi?), meddalwedd goygu cod agored. Yng Nghymru mae llefydd fel Caerdydd wedi ei fapio’n reit dda hyd yn hyn. Mae hwn wedi gael ei wneud yn haws gyda stadau o dai sydd a ffyrdd syth sy’n croesi megis matrics. Nid yw llefydd eraill wedi eu mapio cystal. Edrychwch ar rywle fel Bae Colwyn sydd a phoblogaeth reit uchel a sydd wedi ei ledaenu, nid yw’r hyn sydd wedi ei fapio fel sy’n bodoli go iawn. Yn hyn dwi’n ceisio’i ddweud yw fod angen i bobl Cymru fynd ati i fapio Cymru! Gall hyn cael ei wneud gyda theclynnau GPS neu feddalwedd ar iPhone, neu ffôn sy’n rhedeg Android. Pa bynnag ffôn neu ddyfais sydd gennych gallwch ddatblygu meddalwedd iddo. Un tasg sydd angen ei wneud yw cyfieithu Merkaartor i’r Gymraeg.

O safbwynt Cymraeg gall nodweddion dderbyn unrhyw enw, gyda thag enw Saesneg neu enw Cymraeg. Tagiau posib yw ‘name’, ‘name:cy’ a ‘name:en’. ‘name’ sy’n cael y blaenoriaeth o’r tri neu fwy. Pwy sydd i benderfynu pa enw sydd ‘fwyaf swyddogol’? Pwy sydd am benderfyny os na Caerffili neu Caerphilly sydd am ymddangos, neu fod afon yn cael ei enwi’n Afon Clwyd yn lle River Clwyd. Gall ‘name’ cael ei lenwi gyda River Clwyd tra fo’r tag ‘name:cy’ yn cael ei lenwi gyda Afon Clwyd. Unrhyw ffordd bydd map yn dangos River Clwyd, a thrwy pori ymhellach bydd Afon Clwyd yn ymddangos, er fod gan yr afon enw Cymraeg cynhenid. Byddai lle fel Abertawe yn gallu cael ei drin yn fwy cyfartal gan fod yr enw Saesneg Swansea ag ystyr hollol gwahanol, a fod blaenoriaeth dros un enw neu’r llall yn amhosib ei wneud heb fod ag agenda. Isod mae llun o Merkaartor a sut mae modd golygu a gweld gwybodaeth.

Cofnodwyd y cynnwys hwn yn Cartograffiaeth, Cymdeithas. Rhoi nod tudalen i'r dolen-parhaol. Rhoi sylw neu adael ôl-lwybr: URL Ôl-lwybr.

3 Sylw

  1. Posted Awst 20, 2010 at 12:57 | Permalink

    Dw i ddim cweit yn dallt beth yn union yw mantais Merkaartor dros olygu ac ychwnaegu enwau Cymraeg yn syth ar OSM? ydy Merkaator wedyn yn gallu dangos map i ti ble mae’r enwau Cymraeg wastad yn cael blaenoriaeth, dim ots sut mae nhw wedi eu nodi ar OSM? Dw i ond newydd ddo i wybod sut i ychwanegu a golygu y nodes (h.w. y gwahanol bwyntiau) ar OSM), er mwyn adeiladu a gwiro gwaith rhyw foi o Gymdeithas Gyfrifiaduron Prifysgol Abertawe sy’n gyfrifol am y map yma. Dyw e ddim yna ateb perffaith, ond mae’n mynd i fod yn dderbyniol i beth dwi eisiau – screengrabs o fapiau ar gyfer y Wicipedia Cymraeg.

    Liciwn i ddod i wybod mwy am OSM a dw i’n gobeithio cael ffôn gyda GPS yn fuan (er, dw iw e d dweud hynny ers achau). Dw i wastad wedi meddwl pa mor cwl fyddai trefnu parti mapio yn ystod Eisteddfod, mapio’r ardal a gadael legacy gwerth chweil, neu o leiaf rhywbeth ar gyfer safle arbennig, fel Amgueddfa Sain Ffagan neu beth am Erddi Erddig yn haf 2010?

    Dw i hanner awydd cysylltu a rhai o fapwyr Cymru i weld os fyddai diddordeb gan rhywun i roi sesiwn hyfforddi i griw o newbies.

  2. Posted Awst 20, 2010 at 12:58 | Permalink

    haf 2011 hyd yn oed

  3. Huw Waters
    Posted Awst 22, 2010 at 17:35 | Permalink

    Cwbwl yw Merkaartor yw un darn o feddalwedd allan o nifer sy’n golygu OSM. Ei fanteition dwi’n gweld yw’r gallu i ychwanegu pob manylyn sy’n bodoli o dan API OSM, a gan ei fod yn cod agored gallaf ei gyfieithu i’r Gymraeg – rhywbeth sydd ddim yn bodoli ar hyn o bryd.

    Dwi’m yn meddwl bod Merkaartor yn gallu rhoi blaenoriaeth dros pa iaith i’w ddangos, ond mae’r rhwystr yn bod gyda OSM yn y lle cyntaf. Buasai modd ychwanegu at Merkaartor, gan ei fod yn god agored, i geisio rhoi’r cyfleuster yma.

    Y broblem, fel wnes i godi ond yn amlwg ddim yn rhy glir yw y tag dros enw gwrthrych ar map yw ‘name’. Bydd OSM pob tro yn edrych am ‘name’ er mwyn arddangos enw ffordd, adeilad, afon, pont etc. Tagiau ategynnol yw ‘name:en’ a ‘name:cy’. Dim ond ryw fan wybodaeth sy’n cael eu cynnwys gyda’r tagiau yma, nid y cynnwys pwysig y byddai disgwyl i ‘name’ ei gofnodi. Be yr oeddwn yn trio’i ddweud yw, os oes rhywun di-Gymraeg yn mynd ati i roi enwau ar wrthrych neu ychwanegu at y map, bydd yn siwr o roi enwau Saesneg, fel “Foryd Road” sy’n y Rhyl. Bosib er dipyn mwy o eglurder bydd yn ychwaengu “Ffordd Y Foryd” o dan ‘name:cy’. Gan fod ‘name’ wedi ei lenwi gyda “Foryd Road” sy’n halogiad o’r enw gwreiddiol (yn cynnwys gair Cymraeg wedi ei dreiglo, heb y fannod etc.) dyma cwbwl sydd o bwys. Yr enw YW “Foryd Road”, a gall unrhyw dag enw arall gael ei anwybyddu gan y mwyafrif o feddalweddau eraill sydd am ddefnyddio OSM, fel rhaglenni iPhone etc. I.e. bydd rhaglennydd dim ond yn codio rhaglen i ddangos ‘name’ gan beidio wybod bod y tag ‘name:cy’ yn bodoli, dim bod yr anwybyddiad yn fwriadol.

    Chi di neidio o fy mlaen! Yr oeddwn am roi gofnod yn digon buan o’r gallu i ddefnyddio Merkaartor i echdynnu nodes a’u defnyddio gyda rhaglenni eraill i fodelu mudiant traffig a phobol etc.

    Mae’r syniad efo grŵp-fapio adeg Eisteddfod yn un ardderchog ac yn un dwi heb feddwl amdano. Dwi hefyd wedi bod yn gweitied ers dipyn i gael ffôn GPS, ond yn methu penderfyny pa un i’w gael (dwi’m yn hoff o gael fy hun ynghlwm mewn cytundeb chwaith).

Un Ôl-lwybr

  1. [...] This post was mentioned on Twitter by Mei Gwilym, Huw Waters. Huw Waters said: Yn hoff o fapiau? Dwi yn! http://stwnsh.com/map [...]

Rhoi Sylw

Ni chaiff eich cyfeiriad ebost byth mo'i gyhoeddi na'i rannu. Dynodwyd meysydd angenrheidiol gyda *

*
*

Gallwch ddefnyddio'r tagiau HTML canlynol: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>

  • Categorīau

  • Archifau

Dywedwch Ie dros Gymru. Say Yes for Wales