Un agwedd o iaith, ac yn fwy perthnasol i mi, yr iaith Gymraeg yw ei thafodieithoedd. Yn aml yr ydym yn clywed am Waldo neu T.H. Parry-Williams yn sôn am eu gwladgarwch a hynny fel ryw fath o dafluniad o’u milltiroedd sgwâr i hyd a lle Cymru. I.e. Golygfeydd a phobl Preseli neu Eryri sy’n ymestyn yn bell heibio’r gorwel. Y nodweddion sy’n rhan o’r bobl yw eu ffyrdd o fyw, sut maent yn cyfathrebu â’i gilydd a hynny mewn modd penodol – cymunedau amaethyddol yn defnyddio geiriau unigryw i ddisgrifio bywyd fferm; cymunedau diwydiannol yn defnyddio geiriau unigryw i ddisgrifio gweithfeydd haearn, glo neu fywyd tref.
Agwedd arall o dafodiaith yw ei fod, fel gwyddoniaeth a byd natur, yn rhywbeth sy’n diddori. Wrth i’r byd newid, y Gymraeg yn cilio mewn rhai ardaloedd ac yn tyfu mewn ardaloedd eraill mae’r tafodieithoedd yr ydym yn eu hadnabod yn wynebu newid. I’r rhai sy’n gweld newid eisoes, gall fod yn dorcalonnus wrth i’r dafodiaith ddiflannu’n llwyr neu gael ei llyncu gan dafodiaith gyfagos.
Un ffordd o gofio rhywbeth haniaethol fel tafodiaith yw ei gofnodi, unai ar bapur neu fel sain. Un ymdrech i wneud hyn oedd gan Peter Wyn Thomas a Beth Thomas. Dysgais am eu gwaith Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg: Cyflwyno’r Tafodieithoedd gan Carl Morris draw ar Quixotic Quisling, ble soniodd am greu mapiau o ddefnydd geiriau e.g. pa air yr ydych yn ei ddefnyddio am sweet, boed yn losin, fferen, da-da be bynnag a nodi ar fap ble’r ydych yn byw. Bydd hyn yn galluogi i fap cael ei greu sy’n dangos ardaloedd gyda defnydd geiriau gwahanol.
Fel rhan o’r gwaith, cafodd pobl eu cyfweld a’r ffordd yr oeddent yn siarad, geirfa ac acen, eu recordio ar dâp a’i gofnodi fel testun. Bellach ar wefan Casgliad y Werin, sydd i’w weld gyda dim ond cynnwys Saesneg ar hyn o bryd, mae recordiadau o’r bobl yn siarad yn y gwaith ar gael i’w glywed fan hyn. Byswn i’n deud fy mod yn defnyddio geirfa ac acen sy’n gymysgiad o dafodieithoedd Rhosllannerchrugog, Llansannan a Ffynnongroyw – Cymraeg mae nifer yn ei ddisgrifio fel un Hen Sir y Fflint.
Ar ôl darllen am y llyfr Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg: Cyflwyno’r Tafodieithoedd ar flog Carl, es ati i edrych am y llyfr ym Mhrifysgol Bangor. Mae sawl copi i’w gael yn y Brif Lyfrgell a llyfrgell Safle Normal. Yr oedd hi’n ddiddorol gweld y gwahaniaethau yn sut mae pobl yn siarad yn fy milltir sgwâr i, sef gogledd-ddwyrain Cymru, ond braidd yn siomedig nad oedd mwy o bobl wedi eu cyfweld o drefi eraill. E.e. geiriau crochenwyr a ddaeth i gyffiniau’r Wyddgrug ym Mwcle o Swydd Stafford wedi eu derbyn yn y Gymraeg, fel snapyn am egwyl bwyd.
Yr oedd fy nain, ar ochr fy nhad, yn dwad o Ben-y-cae ger Wrecsam – wedi ei magu mewn ffordd unigryw Gymreig. Adeg Nadolig, buasent yn crogi celyn o nenfwd y tŷ – dim sôn o goeden Nadolig – a’i addurno. Yr oedd disgwyl y post a diwrnod o waith ar yr un diwrnod – dim gwyliau. Dysgais heno fod fy nhad gyda hen dâp o fy hen-daid yn darllen llyfr yr ysgrifennodd i ddathlu canmlwyddiant ei gapel, degawdau yn ôl. Yr ydwyf wedi fy nghynhyrfu bod cofnodiad o dafodiaith a geirfa sydd bosib iawn wedi marw – does neb yn siarad felly heddiw. Fel rhan o ddiwrnod Pethau Bychain, ble mae unigolion yn bwriadu cyfrannu cynnwys Cymraeg i’r we, hoffaf enwebu fy hun i geisio digido’r hen dâp a’i roi arlein fel cofnod o hanes diwylliannol Cymreig.







6 Sylw
G
W
Y
C
H
Diddorol iawn Huw! Wedi’i ysgrifennu’n uffernol o dda.
Mae tafodiaith yn bwnc hynod o ddiddorol i mi hefyd. Daw tafodiaith a’i ragfarnau ond ar y cyfan mae pobl yn falch iawn o’i acen, dwi’n siwr fod hyn yn wir dros y byd i gyd. Dwi’n byw mewn ardal eithaf amaethyddol yma yn Japan ac mae ganddynt acen unigryw yma, mae’r bobl mor falch ohono ac yn siarad amdano’n ddi baid. Mae’n wahanol iawn i acen Tokyo (sef acen y BBC ym Mrhydain) ac yn defnyddio sawl gair sydd ddim yn bodoli yn ngeirfa y mwyafrif o bobl Japaneaidd.
Dipyn o gawl acen sydd gen i, mam o Junction a dad o Birmingham wedi dysgu yng Nghaerdydd, a finnau wedi byw yn Hen Golwyn, Maenan a Manceinion. Dwi’n dweud llefrith ond hefyd pen tost.
Darlleniad diddorol tu hwnt!
Ardderchog.
Dwi’n aml yn difaru na wnes i dapio fy mam-gu yn siarad.
Dwi newydd flogio am gwpwl o eiriau tafodieithol dwi’n cofio o ‘mhlentyndod.
http://siantirdu.wordpress.com/2010/08/23/slimyn-bacwn-yn-y-sinc/
Diolch am y sylwadau.
Er nad ydywf wedi llwyddo i gael gafael ar yr offer priodol i ddigido’r tâp, byddaf yn ei gwneud cyn gynted a phosib!
Oes yna ffasiwn air o Rhos tebyg i ‘dyfon’ (unai’n golygu blin neu cymrysglyd?
(Wrthi’n isdeitlo rhaglen Bro)
Hmm. Tydio ddim yn canu cloch. Fedri di yrru dolen o’r clip i mi wi weld yn ei gyd-destun?
Un Ôl-lwybr
[...] Huw Waters has added his own thoughts and map scans from the prized book, again a library copy. (He’s looking to borrow a reel-to-reel tape player so he can share an old recording. Anyone?) [...]