Microreolwr yw’r Duemilanove (dwy-fil-a-naw mewn Eidaleg), un o nifer gwahanol gan Arduino. Mae cof i ddal cod yn bresenol gyda 14 porth mewnbwn/allbwn digidol ac analog, a phyrth trydan a USB. Gallwch ychwanegu modiwlau i ymhelaethu gallu’r microreolwr fel technoleg Bluetooth neu unrhyw gydran electronic arall. Daw grym Duemilanove gan feddalwedd Arduino sydd yn god-agored a wedi ei seilio ar yr iaith rhaglennu Processing. Gall unrhyw god gael ei newid gyda chysylltiad USB i gyfrifiadur yn rhedeg meddalwedd Arduino.

Daethais o hyd i Duemilanove wrth weld poster yn adran Cyfrifiadureg, Prifysgol Bangor. Fel rhan o brosiect gradd yr oedd y myfyriwr Jack Warder wedi datblygu system ble’r oedd hi’n bosib creu patrymau gweledol sy’n ymateb i gerddoriaeth, a rheoli goeuadau yn ddi-wifr gydag iPhone neu iPod. Yr oedd microfwrdd Duemoilanove gydag ategyn wedi ei gysylltu a phrotocol DMX, dull poblogaidd o reoli goleuadau llwyfan neu theatr, ac yn gallu derbyn gwybodaeth yn ddi-wifr. Cafodd meddalwedd TouchOSC ei osod ar iPhone/iPod Touch, sy’n eich galluogi i yrru a derbyn gwybodaeth yn ddi-wifr gyda nifer o lusgwyr a botymau. I greu’r delweddau sy’n ymateb i gerddoriaeth, defnyddiwyd Processing. Isod mae llun (gwael) o’r poster oddi ar fy ffôn symudol.

Daw un defnydd diddorol o Duemilanove gan gwmni Poke, sydd wedi clymu’r microreolwr â Thwitter trwy rhyngwyneb taclus a syml. Mewn bocs gwyn mae’r microreolwr gyda modiwl ether-rwyd, sgrîn matrics-dot, rhan o hen orsaf di-wifr Linksys, erial, swtis troellog a chyflenwad trydan. Mae’r modiwl ether-rwyd yn galluogi’r Duemilanove i gysylltu â rhwydwaith; yn yr achos yma, mae’r modiwl yma’n cysylltu â hen orsaf di-wifr.
Yn syml mae rhyngwyneb gwe, sydd angen i chi mewngofnodi, yn eich galluogi rhestru dewisiadau gydag enw a disgrifiad, sydd wedyn yn gallu cael ei drosglwyddo i’r bocs gwyn. Gellir symud rhwng y dewisiadau gyda’r swits troellog sydd yn dangos yr enw ar y sgrin matrics-dot. Pan wnewch wasgu’r botwm, gwneith yrru’r disgrifiad a mewnbynwyd trwy’r rhyngwyneb gwe i gyfrif Twitter.
Gosodiad Poke oedd bocs ar gyfer y popydd Albion’s Oven, sydd cyferbyn i’w swyddfa, ble’r oedd modd hysbysu cwsmeriaid trwy Twitter fod bara neu gwcīau newydd ddod o’u popty. Os na torthau (pam ddim tyrth?) brown sydd yn ffres o’r popty, troi’r swits nes fod Wholemeal Bread ar y sgrîn, wedyn gwasgu’r botwm. Ar Twitter fydd hwn yn ymddangos:
Crackly shells disguise a soft centre of gorgeous cloudy dough. Temptingly toasty fresh Wholemeal Tin Loaf.
Ffrwd Twitter Albion’s Oven. Mi wneith y fideo ma fy nghynorthwyo gyda’r disgrifiad uchod:
Yr ydwyf ar hyn o bryd yn ceisio datblygu un neu ddau o syniadau sy’n defnyddio’r microreolwr Duemilanove. Gwnaf eu cofnodi pan fyddent yn barod.
Un Sylw
Ti di weld hwn? Cathod. Doniol.
http://www.nermal.org/projects/catalog/
Un Ôl-lwybr
Arduino Model Railroad Scale Speedometer Hack…
I really found your post interesting so I added a trackback to it on my Track Hacker blog
…